S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Mae gan S4C weithlu anhygoel ac ymroddedig o tua 125 o unigolion wedi eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac yn gweithio yn hybrid o'u cartrefi.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â ni. Yn dilyn cyfnod heriol, yr ydym am sicrhau ffocws ar ein pwrpas a'n blaenoriaethau strategol. Yn ganolog i lwyddiant hyn bydd sicrhau fod gan S4C amgylchedd gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol, sy'n buddsoddi yn ei gweithlu i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn perfformio'n dda a fydd yn sicrhau arlwy aml blatfform ardderchog ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Fel aelod o'r tîm rheoli, bydd y Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth sy'n cyflawni ein dyheadau ar gyfer ein staff, gan ddenu, cadw a datblygu gweithlu amrywiol a thalentog, a chreu amgylchedd sy'n caniatáu i bawb sy'n gweithio gyda ni deimlo'n ddiogel a bod y gorau y gallent fod.

Mae hon yn rôl sy'n weladwy iawn ar bob lefel, a bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y tîm arweinyddiaeth, ein Bwrdd, ein staff a'u cynrychiolwyr ynghyd â'n partneriaid.

Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy'n dod â phrofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau pobl, gyda gwybodaeth gref o ddiwylliant a datblygiad sefydliadol, ymgysylltu gyda'r gweithle yn gadarnhaol, materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a phrofiad eang o gynghori ar faterion a datblygu Adnoddau Dynol technegol. Yn wneuthurwr newid sy'n annog y rhai o'u cwmpas i gamu y tu allan i'w parth cysur, bydd gennych ddull hyderus a gwybodus o ymdrin â phopeth sy'n ymwneud â phobl a diwylliant ac ymrwymiad profedig i hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn ddilys ac y gorau y gallent fod yn y gwaith.

Mae'r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i lefel uwch yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd eraill S4C o bryd i'w gilydd yn unol a gofynion y gwasanaeth.

Cyflog: £85,000 - £90,000

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn yn cynyddu i 32 diwrnod gyda hyd gwasanaeth. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%, ond mae modd ichi gyfrannu mwy os dymunwch.

Buddion eraill yn cynnwys:

  • Yswiriant Bywyd
  • Tâl salwch galwedigaethol
  • Cynllun Seiclo i'r gwaith
  • Cynllun Cynorthwyo Staff
  • Buddion tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu

Ceisiadau

Dylid anfon eich CV yn y lle cyntaf at ein partner recriwtio Mera Mann, o gwmni Human Resourcing e-bost: mera.mann@humanresourcing.co.uk, neu croeso ichi gysylltu gyda Mera am sgwrs.

Dyddiad Cau: Hanner dydd 12 Medi 2024

Byddwn yn edrych i gynnal cyfweliadau ffurfiol yng Nghanolfan yr Egin Caerfyrddin ddiwedd Medi 2024.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?