Mae S4C yn chwilio am Reolwr Technegol Gwasanaethau Aml-blatfform fydd yn chwarae rôl allweddol drwy gydweithio gyda thimoedd digidol S4C a'r sector i sicrhau bod cynnwys S4C yn cael ei gyfleu a'i gyhoeddi yn gywir ar draws yr holl blatfformau.
Yn y rôl hon byddwch yn cefnogi'r adran Gyhoeddi wrth i chi ymgymryd â'ch cyfrifoldebau. Byddwch yn goruchwylio, rheoli a chreu llifoedd gwaith aml blatfform S4C gan sicrhau cefnogaeth dechnegol ac ymarferol lle bo angen. Byddwch yn bwynt cyswllt hollbwysig ar gyfer anghenion technegol ac o ran cyfleu a'n medru cyd-lynu rhwng S4C, cwmnïau annibynnol y sector a'r BBC.
Byddwch yn rhan o dîm sydd yn sicrhau'r defnydd gorau posibl o adnoddau yn unol â chynlluniau a blaenoriaethau S4C. Byddwch yn gweithio oriau hyblyg, pan fo angen, er mwyn rheoli'r cyhoeddi aml-blatfform gan gynnwys ffrydiau byw ar draws platfformau digidol S4C.
Mae'r gallu i siarad a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Bydd gofyn ichi deithio yn eithaf rheolaidd fel rhan o'ch swydd. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i'w gilydd.
Cyflog: £46,000-£49,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 4 Tachwedd 2024 at pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 11 Tachwedd 2024
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.