Mae gan S4C gyfle unigryw a chyffrous ar gyfer penodi Cydlynydd Prosiect i gychwyn yn syth ar gytundeb tymor penodol hyd at fis Rhagfyr 2025.
Yn y rôl bwysig hon byddwch yn gweithio gyda nifer o uwch randdeiliaid o fewn S4C ac yn allanol (o Media Cymru) i gydlynu prosiect sy'n hanfodol i genhadaeth y fusnes. Byddwn yn gofyn y cwestiwn sylfaenol y mae pob darlledwr teledu yn ceisio mynd i'r afael ag ef – sut bydd ein cynulleidfaoedd yn canfod ac yn gwylio ein cynnwys yn y dyfodol.
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys ymgysylltu â nifer o rhanddeiliaid yn fewnol ac yn allanol er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cadw ar y trywydd cywir a bod yr holl wybodaeth yn cael ei lledaenu mewn modd amserol a phroffesiynol. Mae dyletswyddau'n cynnwys, gweinyddu ac adrodd ar y prosiect o ddydd i ddydd, cydlynu cyfarfodydd a chadw cyfrifon a chofnodion cywir a chyfredol o dderbynebau a gwariant grant. Mae cofnodi llif gwybodaeth ac ymchwil yn hollbwysig ac mae gallu trosglwyddo'r wybodaeth i gyflwyniadau yn ddymunol ochr yn ochr â hanes o weithio ar brosiectau mawr.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n gywir hyd at safon dda ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Gymraeg yn ddymunol.
Manylion Eraill:
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i ble bynnag y bydd S4C yn archebu'n rhesymol o bryd i'w gilydd.
Cyflog: £35,000-£38,000 y flwyddyn pro rata.
Cytundeb: Cytundeb cyfnod penodol 15 – 18 mis am gyfnod y prosiect.
Oriau Gwaith: 4 diwrnod yr wythnos (29 awr yr wythnos). Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Iau 31 Hydref 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Pob a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 7 Tachwedd 2024
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.