Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod anweithredol arall, pob un wedi'i benodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae aelodau'n dod â sgiliau a phrofiad amrywiol i'r Bwrdd, er bod disgwyl i bob un ohonynt sicrhau bod S4C yn cyflawni ei gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus a bod arian cyhoeddus a chyllid ffi'r drwydded a ddyrennir i S4C yn cael eu defnyddio'n briodol.
Bydd gofyn i Aelodau'r Bwrdd hefyd sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus S4C yn cael eu darparu yn unol â chylch gwaith statudol S4C a darpariaethau'r Cytundeb Partneriaeth presennol y mae S4C a'r BBC wedi cytuno arno rhyngddynt.