S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Cydlynydd Trefnu Cyfryngau

Mae'r S4C yn chwilio am Gydlynydd Trefnu Cyfryngau i ymuno a'r Tîm Cyhoeddi fydd yn gyfrifol am amserlenni ymgyrchoedd hyrwyddo ar-sgrin a chynnwys aml-blatfform S4C.

Byddwch yn amserlennu a darlledu asedau fel tréls, negeseuon hyrwyddo ac eitemau graffeg yn unol â'r flaenoriaeth marchnata a chyfathrebu S4C i ddenu diddordeb y gynulleidfa a chodi ymwybyddiaeth am ein cynnwys.

Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau cydlynu ar draws yr adran gyhoeddi, gan gydweithio gyda'r adran gyfleu a gwasanaethau mynediad lle bo'r angen.

Mae'r gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon uchel yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i'w gilydd.

Cyflog: £32,000 - £34,000 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Gwener 31 Ionawr 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?