Mae S4C yn chwilio am Glerc Cyllid Iau i ymuno a'r Tîm Cyllid. Byddwch a chyfrifoldeb am gynnal a chadw'r llyfr pryniant gan sicrhau fod systemau cyllid perthnasol S4C yn gyfredol, bod ein cyflenwyr ac ein cyflogai yn derbyn taliadau amserol gan sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol cysylltiedig.
Bydd y dyletswyddau yn cynnwys prosesu a phostio anfonebau cyflenwyr yn ddyddiol, cysoni cyfrifon cyflenwyr a delio gydag ymholiadau.
Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r uned rheoli costau i brosesu taliadau cynhyrchu a chau cynyrchiadau.
Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau am gofrestru trafodion banc a gwirio a phrosesu ceisiadau treuliau staff a phrosesu blaendaliadau i staff.
Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r Clerc Cyllid a'r tîm Cyllid yn ôl yr angen.
Dylid nodi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant ar gyfer datblygu sgiliau a chymwysterau yn y maes Cyllid.
Mae'r gallu i gyfathrebu i safon dda yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol i'r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: £23,423.40 - £24,500 (pro rata)
Oriau gwaith: 28½ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: 12 mis
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mercher 29 Ionawr 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.