Perfformiad Einir Dafydd, y ferch o'r Preseli, o 'Ti Oedd Yr Un' gan Caryl Parry Jones.
Bella Voce, ensemble merched o Sir Benfro gyda pherfformiad o'r emyn poblogaidd 'Calon Lân' ar Noson Lawen.
Awn i fyd yr ymladdwr teirw gydag Adam Gilbert a'i berfformiad o 'Toreador' gan Georges Bizet allan o'r opera boblogaidd 'Carmen'.
Cân gan Delwyn Sion yn croniclo hanes y llu o Gymry yn y ddeunawfed ganrif a benderfynodd adael caledi cefn gwlad a mynd i chwilio am fywyd gwell gan ddilyn y palmant aur i'r Amerig.
Lorïau enwog Mansel Davies sy'n teithio ledled Cymru yw testun cân tafod yn y boch gan Welsh Whisperer.
Angharad Mair Jones yn arwain perfformiad Côr Crymych a'r Cylch o'r emyn cyfoes 'Pwy All fesur Lled y Cariad' o waith Peter Thomas a Meirion Wynn Jones.
'Gwynfyd' gan Meirion Williams yw testun cân Adam Gilbert ar Noson Lawen.
Delwyn Sion a Chôr Crymych a'r Cylch gyda pherfformiad o Niwl ar Fryniau Dyfed, un o ganeuon bytholwyrdd y grŵp Hergest o'r 70au.
Noson Lawen gydag Einir Dafydd yn perfformio cân a gyfansoddwyd ganddi a Ceri Wyn Jones – 'Mae dy rif di yn fy ffôn'.