Anthony Stuart Lloyd, a ddisgrifwyd fel y gŵr gyda'r llais Rolls Royce, yn diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'i berfformiad o Un Eiliad Mewn Oes.
Côr Orpheus Treforys dan arweiniad Joy Amman Davies a gyda Llyr Simon yn cyfeilio yn perfformio Mor Hawddgar Yw Dy Bebyll gan y cyfansoddwr Eric Jones ar Noson Lawen.
Osian Wyn Bowen yn perfformio'r unawd Gymraeg boblolgaidd i denoriaid Yr Hen Gerddor ar Noson Lawen.
Gwenda a Geinor yn diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen yng Nghaerfyrddin gyda'r gân Tra Bo Tri.
Ymuna Côr Orpheus Treforys gyda Anthony Stuart Lloyd mewn perfformiad pwerus o Ni Cherddi'n Unig Fyth ar lwyfan y Noson Lawen.
Sipsi Gallois, y band jás sipsi o Sir Gâr, yn perfformio un o'r caneuon oddi ar eu hail gryno ddisg ar Noson Lawen - Tracey Rees.
Bronwen Lewis, y gantores o Flaen Dulais, yn canu un o'i chaneuon gwreiddiol ar Noson Lawen - Ti a Fi.
Côr Merched Hŷn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin dan arweiniad Meinir Richards yn canu Gwenllian o waith Eric Jones a Peter Hughes Griffiths mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Theatr Lyric Caerfyrddin.
Dilynwyr Clive Edwards yn mwynhau ei berfformiad o Cân Y Cymro mewn Noson Lawen a recordiwyd yng Nghaerfyrddin.
Gwenda a Geinor yn perfformio Unig Hebddo Ti gan Emlyn Dole ar Noson Lawen.