Lewys - un o fandiau mwyaf y sîn roc Gymraeg yn perfformio'u cân 'Dan y Tonnau' ar lwyfan y Noson Lawen.
Brawd a chwaer talentog - Jada a Casey Lane yn perfformio medli o alawon Nadoligaidd.
Côr Ysgol Gerdd Ceredigion dan arweiniad Islwyn Evans yn perfformio 'Daeth Amser Hudolus'.
Mared Jeffery, 10 oed o Flaenau Ffestiniog, mewn Noson Lawen Nadoligaidd yn perfformio 'Seren Fach'.
Datganiad hyfryd Elan Catrin Parry gyda Leisa Gwenllian yn canu llais cefndir, o'r gân Nadoligaidd hudolus 'Rwyt yn fab i mi'.
Plant y teulu Trystan - Leusa, Rhyddid a Brython yn adfer y grefft o ganu sol-ffa gyda'u perfformiad o'r garol 'Cofio Crist'.
Côr Bechgyn Iau Ysgol Plasmawr yn mwynhau perfformio un o ganeuon hudolus Al Lewis - 'Clychau'r Ceirw' ar Noson Lawen dan arweiniad Angharad Evans.
Manw Lili Robin - cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth y Junior Eurovision 2018 yn perfformio'r gân 'Fflam' ar lwyfan y Noson Lawen.
test edge
Yn perfformio gyda'i gilydd am y tro cyntaf erioed - dyma berfformiad Ifan, Elan, Manw a Lewis o 'Fy nghariad gwyn' gan Yws Gwynedd ar lwyfan y Noson Lawen.
Bryn Fôn a'r Band yn perfformio 'Noson Ora 'Rioed' ar Noson Lawen.
Rebecca Trehearn yn diddanu cynulleidfa Noson Lawen gyda'i pherfformiad o 'Mor Lwcus Ydw I'.
Lleisiau cyfoethog Cantorion Gogledd Cymru yn cyflwyno 'Yn y Man', ar lwyfan Noson Lawen.
Perfformiad hudolus Ilid Llwyd Jones o 'Gabriel's Oboe' gan Ennio Morricone ar Noson Lawen.
Perfformiad cellweirus o 'Tŷ ar y Mynydd', un o ganeuon poblogaidd y grŵp Maharishi, gan Bedwarawd Brynhyfryd ar Noson Lawen.
Craig Ryder yn perfformio 'Hon Ydi'r Eiliad' ar lwyfan Noson Lawen.
Tynnu coes a hwyl gyda Gruffudd Einion Owen ar Noson Lawen wrth iddo berfformio parodi yn dwyn y teitl 'Ffan Mwyaf Bryn Fôn' ar alaw 'Rebal Wicend'.
Deuawd hyfryd 'Mond Un Noson' gan Rebecca Trehearn a Craig Ryder ar Noson Lawen.
Bryn Fôn a'r Band ar Noson Lawen yn perfformio un o'r ffefrynnau poblogaidd 'Abacus'.
Datganiad pwerus o 'Gad i'r Ddaear Droi' gan Gôr Cytgan Clwyd dan arweiniad Ann Davies
Y ddeuawd o Ddyffryn Clwyd - Dafydd Wyn Jones a Lisa Dafydd yn perfformio 'Mae'r Gân yn ein Huno' gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain.
Teyrnged i'r cyfansoddwr Robat Arwyn mewn triniaeth newydd 'jazzy' gan 50 SHÊD o Lleucu Llwyd o'r gân Dy Garu Di o Bell.
Lleisiau disglair CÔR IAU GLANAETHWY dan arweiniad Rhian Roberts yn codi'r to gyda'u perfformiad o 'Ymlaen â'r Gân' gan Robat Arwyn.
Côr Rhuthun yn canu un o gyfansoddiadau eu harweinydd Robat Arwyn - Gwisg Fi'n dy Gariad, allan o'r sioe a gyd ysgrifennwyd gyda Mererid Hopwood ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Caerdydd 2018.
Ffion Emyr a Rhys Taylor yn perfformio deuawd llais a clarinet o'r gân Dagrau'r Glaw gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.
Sorela yn rhoi eu stamp unigryw ar rai o ganeuon Trisgell mewn Noson Lawen i ddathlu penblwydd Robat Arwyn yn 60.
Perfformiad pwerus Rhys Meirion a'r ensemble o'r gân hynod o boblogaidd 'Anfonaf Angel' gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn - cân sy'n cael ei mwynhau a'i pherfformio ar draws y byd ac a ddaeth yn anthem i'r Ambiwlans Awyr.
Beth Celyn yn perfformio 'Yfory' ar Noson Lawen - cân a gyfansoddwyd nôl yn 1984 ac sy'n dal i swyno'r cynulleidfaoedd.
Bryn Terfel yn swyno'r dorf gyda chymorth Côr Rhuthun mewn perfformiad o Brenin y Sêr mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu pen blwydd ei ffrind, y cyfansoddwr Robat Arwyn.