Jamie Bevan yn cyflwyno cân llawn hwyl Dim Lentils Mewl Cawl ar lwyfan Noson Lawen gyda pherfformwyr o'r Cymoedd.
Lisa Victoria â pherfformiad sensitif o'r gân hudolus Y Caeau Aur ar Noson Lawen o Bentre'r Eglwys ger Pontypridd.
Aelodau Côr Ysgol Gymraeg Evan James yn cyflwyno Cân Yr Ysgol o waith Sian Elin Jones ar Noson Lawen - gyda'r plant yn ymfalchio yn eu hysgol, eu gwaith, eu hiaith a chwmni ffrindiau da.
Gracie Richards yn perfformio'i chyfansoddiad Awr Cyn y Wawr yn ei hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen.
Cynulleidfa Noson Lawen o'r Cymoedd yn mwynhau llais melfedaidd Huw Euron a'i berfformiad o Anthem.
Côr Aelwyd Cwm Rhondda dan arweiniad Rachel Stephens yn canu Ffydd, Gobaith, Cariad (Robat Arwyn) mewn Noson Lawen gyda chyd artistiaid o'r Cymoedd.
Cyfaredd cerddorol gyda Tom Hutchinson, prif chwaraewr corned Band Pres y Cory a'i berfformiad o CARNIVAL OF VENICE ar Noson Lawen.
Jamie Bevan yn cyflwyno hanes un o gymeriadau lliwgar Merthyr 'Johnny Bach Pentips' i gynulleidfa Noson Lawen.
Daw dau o wynebau cyfarwydd yr opera sebon Pobol y Cwm at ei gilydd i ganu deuawd am y tro cyntaf ar Noson Lawen, Huw Euron a Lisa Victoria - Ti Yw Y Rheswm.