Ymuna Dewi Pws, Linda Griffiths ac Ar Log ar lwyfan Noson Lawen i berfformio Can Sbardun - cân o deyrnged i'r diweddar Alun Sbardun Huws.
Hwyl a thynnu coes gyda Rhys ap William ar Noson Lawen wrth iddo berfformio Cân y Cap yng nghymeriad Terry Watkins.
Mary-Jean O'Doherty yn canu un o'r caneuon sy'n cyffwrdd calonnau'r Cymry ym mhedwar ban y byd, Cymru Fach.
Aiff Jodi Bird â chynulleidfa'r Noson Lawen i Efrog Newydd a byd y sioeau cerdd gyda'i pherfformiad meistrolgar a bywiog o'r gân Helyntion Fy Fflat.
Hwyl ar gerdd dant gyda Pharti'r Efail, a'u telynores Bethan Roberts, mewn Noson Lawen yng Ngarth Olwg ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.
Perfformiad teimladwy Rhys ap William ar Noson Lawen o gân hyfryd Delwyn Siôn - Engyl Gwyn ar Waliau Glas.
Cyffro ym mherfformiad Côr Ysgol Gymraeg Garth Olwg o'r gân Razzmatazz ar lwyfan Noson Lawen.
Mary-Jean O'Doherty yn perfformio'r aria boblogaidd O Mio Babbino Caro ar lwyfan y Noson Lawen.
Ar Log yn perfformio medli o alawon traddodiadol Cymreig yn dwyn y teitl Tŷ a Gardd ar Noson Lawen.