Sian Richards, y gantores gyfansoddwraig o Abertawe, yn canu 'Adref' - cân oddi ar ei halbwm sy'n dwyn y teitl 'Trwy Lygaid Ifanc'.
Dychwela Angharad Brinn i lwyfan y Noson Lawen i ganu 'Hedfan Heb Ofal' (Caryl Parry Jones / Christian Phillips).
Côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn diddori cynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad o 'Dyna Ryfeddod Yn Wir' mewn rhaglen gydag artistiaid o Abertawe.
Huw Chiswell yn diddanu cynulleidfa Noson Lawen gyda pherfformiad o'i gân 'Gadael Abertawe'.
Ymuna Angharad Brinn a Rhys ap William gyda Huw Chiswell mewn perfformiad o'i gân eiconig 'Y Cwm' i gloi'r Noson Lawen.
Y grŵp Pwdin Reis yn tywys cynulleidfa'r Noson Lawen yn ôl i'r 1970au i gofio am Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog - mewn perfformiad o 'Dicsi'r Clustie'.
Aelodau'r grŵp Pwdin Reis yn mwynhau perfformio'u cân arddull rockabilly 'Mas o Ma' i gynulleidfa'r Noson Lawen.
Sain gyfoethog Côr Meibion Pontarddulais yn codi'r to mewn perfformiad o 'Gwinllan a Roddwyd' - geiriau heriol Saunders Lewis a cherddoriaeth rymus Caradog Williams.
Rhys ap William yn talu teyrnged i'w ardal enedigol yng Nghwm Tawe gyda'i berfformiad o'r gân 'Adra' (Gwyneth Glyn) ar Noson Lawen.