Y ddeuawd o Ddyffryn Clwyd - Dafydd Wyn Jones a Lisa Dafydd yn perfformio 'Mae'r Gân yn ein Huno' gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain.
Teyrnged i'r cyfansoddwr Robat Arwyn mewn triniaeth newydd 'jazzy' gan 50 SHÊD o Lleucu Llwyd o'r gân Dy Garu Di o Bell.
Lleisiau disglair CÔR IAU GLANAETHWY dan arweiniad Rhian Roberts yn codi'r to gyda'u perfformiad o 'Ymlaen â'r Gân' gan Robat Arwyn.
Côr Rhuthun yn canu un o gyfansoddiadau eu harweinydd Robat Arwyn - Gwisg Fi'n dy Gariad, allan o'r sioe a gyd ysgrifennwyd gyda Mererid Hopwood ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Caerdydd 2018.
Ffion Emyr a Rhys Taylor yn perfformio deuawd llais a clarinet o'r gân Dagrau'r Glaw gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.
Sorela yn rhoi eu stamp unigryw ar rai o ganeuon Trisgell mewn Noson Lawen i ddathlu penblwydd Robat Arwyn yn 60.
Perfformiad pwerus Rhys Meirion a'r ensemble o'r gân hynod o boblogaidd 'Anfonaf Angel' gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn - cân sy'n cael ei mwynhau a'i pherfformio ar draws y byd ac a ddaeth yn anthem i'r Ambiwlans Awyr.
Beth Celyn yn perfformio 'Yfory' ar Noson Lawen - cân a gyfansoddwyd nôl yn 1984 ac sy'n dal i swyno'r cynulleidfaoedd.
Bryn Terfel yn swyno'r dorf gyda chymorth Côr Rhuthun mewn perfformiad o Brenin y Sêr mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu pen blwydd ei ffrind, y cyfansoddwr Robat Arwyn.
Lleisiau cyfoethog yr ensemble dynion yn swyno'r gynulleidfa gyda'r pherfformiad o Benedictus gan Robat Arwyn.