Mair Tomos Ifans ar lwyfan Noson Lawen Meirionnydd yn cyflwyno baled o gerydd am y defnydd cyfoes o'r enw 'South Gwynedd' - 'Yr Ellyll Erchyll' ar alaw Hen Garol Perthyfelin.
Sian Meinir yn perfformio trefniant hyfryd Peter Williams o 'Hiraeth am Feirion' ar Noson Lawen - cân yn adlewyrchu'r dynfa'n ôl i ardal ei mebyd.
Gwibdaith Hen Fran yn perfformio 'Wastio Awr' ar Noson Lawen – y geiriau bachog yn dangos mor anodd yw 'dal' amser.
Sion Goronwy yn perfformio'r unawd Gymraeg wladgarol 'Y Cymro' gydag arddeliad ar lwyfan Noson Lawen.
Datganiad Sian Meinir a Sion Goronwy o gampwaith Robat Arwyn - 'Benedictus'.
Mared Jeffery, y seren ifanc o'r Blaenau, yn swyno cynulleidfa'r Noson Lawen gyda 'Tri Mis a Diwrnod'.
Gai Toms yn perfformio 'Tafarn yn Nolrhedyn' ar Noson Lawen - cân am ardal hyfryd Dolrhedyn ger Cwmorthin ym mynyddoedd Meirionnydd.
Gwibdaith Hen Fran yn llawn afiaith ar lwyfan Noson Lawen gyda'u cân o ysbyrydoliaeth - 'Byd yn dy law'.
Gai Toms yn perfformio cân o obaith a gyfansoddodd yn ystod cyfnod clo 2020 - 'Pobl Da y Tir'.