Meilir Jones a Rhys Meilyr sy'n perfformio un o'r deuawdau mwyaf poblogaidd i denor a bariton yn y Gymraeg, 'Y Ddau Wladgarwr'.
Iddon Jones â'i drefniant o un o ganeuon mwyaf poblogaidd y grŵp roc Big Leaves, 'Seithenyn'.
Y grŵp poblogaidd o Fôn sy'n perfformio un o'u caneuon oddi ar eu halbwm enillodd y wobr am 'Record Hir Orau' yng Ngwobrau'r Selar yn 2020.
Trefniant y grŵp Bacsia o gân werin draddodiadol â'i gwreiddiau yn Ynys Môn sef 'Titrwm Tatrwm'.
Gŵr a gwraig o Fôn sy'n perfformio fersiwn Gymraeg o'r alaw draddodiadol Almaeneg 'Muss i Denn'.
Cantores ifanc o Rostrehwfa, Ynys Môn sy'n canu un o glasuron Caryl Parry Jones, 'Y Nos yng Nghaer Arianrhod'.
Trefniant arbennig o un o ganeuon serch mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr Tudur Huws Jones.
Addasiad hwyliog Llio Evans o 'Cân y Bugeiliaid' gan Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan.
Y cerddor Daf Jones o Langefni sy'n perfformio cân o'r enw 'Sbardun' oddi ar ei albwm ddiweddaraf ar lwyfan y Noson Lawen.