Y ddeuawd fytholwyrdd, John ac Alun sy'n cloi 'Noson Lawen Canu Gwlad' gydag un o'r ffefrynnau, 'Dyddiau Difyr'.
Gwyneth Glyn sy'n ymuno gyda Cowbois Rhos Botwnnog i berfformio eu trefniant nhw o'r alaw werin 'Paid a deud'.
Gwyneth Glyn sy'n perfformio 'Angeline' gyda chymorth Gwilym Bowen Rhys ar y banjo ac Euron Jones ar y pedal steel.
Y gantores a'r gyfansoddwraig o Lŷn, Emma Marie sy'n canu un o'i chaneuon gwreiddiol, 'Deryn glân i ganu' ar lwyfan y Noson Lawen.
Y Welsh Whisperer sy'n teimlo'r 'A470 Blues' wrth berfformio ar lwyfan y Noson Lawen.
Perfformiad hwyliog o 'Hei Anita' gan un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd byd y Canu Gwlad yng Nghymru, John ac Alun.
Brenhines y Canu Gwlad yng Nghymru, Doreen Lewis sy'n canu'r glasur, 'Rhowch i mi Ganu Gwlad'.
Jonathan Davies sy'n perfformio cân newydd sbon, 'Wrth fy modd' mewn pennod arbennig o 'Noson Lawen Canu Gwlad'.
Cowbois Rhos Botwnnog sy'n canu eu cân newydd o'r enw 'Adenydd'.
Geraint Lovgreen sy'n canu ei gân boblogaidd, 'Canu Gwlad' gyda'i dafod yn dynn yn ei foch!