9 Mehefin 2022
Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau estynedig o gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn y Springboks ar eu taith yr haf i Dde Affrica.
10 Mehefin 2022
Mae S4C wedi llwyddo i gipio dwy wobr yng Ngwyl Cyfryngau Celtaidd 2022 a gynhaliwyd yn Quimper yn Llydaw yr wythnos hon.
15 Mehefin 2022
Mae S4C wedi dod â rhai o ddigwyddiadau mawr chwaraeon a gwyliau ieuenctid Cymru i sgriniau a chartrefi Cymru a thu hwnt yn ystod yr wythnosau diwethaf.
20 Mehefin 2022
Bydd S4C yn parhau i fod yn gartref i bêl-droed domestig Cymru am y pedair mlynedd nesaf.
24 Mehefin 2022
Mae'r gantores ac artist cerddorol o Gaerdydd, Marged yn teithio'r byd gyda band poblogaidd Self Esteem fel lleisydd a dawnswraig gefndirol.
28 Mehefin 2022
Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Llofruddiaeth Logan Mwangi, yn agor cil y drws ar ymchwiliad heddlu le'r oedd pob eiliad yn cyfri wrth chwilio am dystiolaeth.
29 Mehefin 2022
Bydd dydd Mawrth 19 Gorffennaf yn ddiwrnod prysur o chwaraeon merched rhyngwladol ar blatfformau digidol S4C.
1 Gorffennaf 2022
Bydd tîm o 199 o athletwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham eleni a bydd modd dilyn eu holl lwyddiannau dros yr wythnosau nesaf ar S4C.
15 Gorffennaf 2022
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 yn ddiweddarach eleni, mae'r sianel yn estyn allan i gynulleidfaoedd yn y DU a ledled y byd gyda darllediadau cynhwysfawr o ddigwyddiad amaethyddol mwyaf Ewrop sef y Sioe Frenhinol.
19 Gorffennaf 2022
Mae S4C wedi cyflwyno cwpan coffa heddiw, er cof am y darlledwr a'r ffermwr poblogaidd Dai Jones Llanilar. Bydd y cwpan yn cael ei gyflwyno i enillwyr y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff, sef hoff gystadleuaeth Dai yn Y Sioe Frenhinol brynhawn ddydd Mawrth 19 Gorffennaf.
20 Gorffennaf 2022
Mae S4C wedi gweld twf pellach mewn cynulleidfaoedd sy'n defnyddio ei gwasanaethau dal i fyny, gyda chynnydd o 11.6% y flwyddyn yn y sesiynau gwylio ar ei chwaraewyr.
Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C am y flwyddyn 2021-22 nododd y darlledwr hefyd y bydd buddsoddi helaeth mewn llwyfannau gwylio newydd, ac y byddant yn cyflwyno dulliau newydd o fesur y niferoedd sy'n troi at S4C ar y llwyfannau hynny.
29 Gorffennaf 2022
Bydd S4C yn darlledu'r holl gyffro'r Eisteddfod Genedlaethol o Dregaron trwy gydol yr wythnos ar S4C, ac ar y chwaraewyr.
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 oed, ac fel cartref profiadau Cymru bydd S4C yn dod â holl fwrlwm gŵyl ddiwylliannol mwyaf Ewrop i wylwyr S4C a hynny ar amryw o lwyfannau gwahanol.
29 Gorffennaf 2022
Mae stiwdio ffilm a theledu newydd yn cael ei chynllunio yn Ynys Môn i fanteisio ar y nifer cynyddol o gynyrchiadau sy'n cael eu denu i'r lleoliadau godidog ar draws Gogledd Cymru.
29 Gorffennaf 2022
Mae Sgorio wedi cyhoeddi'r gemau byw cyntaf fydd yn cael eu dangos yn y tymor pêl-droed newydd.
1 Awst 2022
Mae S4C yn falch iawn o gadarnhau heddiw bod ceisiadau ar agor i gwmnïau cynhyrchu dendro am fersiwn Gymraeg o fformat Channel 4 a Studio Lambert o Gogglebox.
1 Awst 2022
Mae S4C, y darlledwr Cymraeg, wedi comisiynu Mwy na Daffs a Taffs (teitl dros dro),sef cyfres ob-doc 6x40 munud, a gynhyrchir gan Carlam Ltd.
2 Awst 2022
Dafydd Lennon yw cyflwynydd newydd gwasanaeth Cyw.
8 Awst 2022
Bydd y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Met Caerdydd ar benwythnos agoriadol y tymor Adran Premier Genero i'w gweld yn fyw ar S4C.
11 Awst 2022
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi Suzy Davies fel Aelod o Fwrdd S4C am dymor o bedair blynedd rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2026.
12 Awst 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw'n noddi gorymdaith Pride Cymru eleni.
12 Awst 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod yn recriwtio am aelod newydd er mwyn gwireddu gwaith y sianel yn y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
18 Awst 2022
Bydd modd dilyn y tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C gyda gemau byw o'r penwythnos cyntaf hyd at y diwedd.
16 Awst 2022
Bydd tîm rygbi menywod Cymru yn herio Canada ar ddiwedd y mis ac mi fydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ac yn ecsgliwsif gan S4C.
5 Medi 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai dau gwmni cynhyrchu o Ogledd Cymru sydd wedi ennill tendr i gynhyrchu cyfres Gogglebocs Cymru, sef Chwarel a Cwmni Da.
7 Medi 2022
Mae S4C wedi llwyddo i gael 27 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Mercher 7 Medi 2022.
20 Medi 2022
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2021, bydd S4C yn darlledu pob un o'r gemau yn fyw yn ystod y gystadleuaeth.
27 Medi 2022
Wedi cyfnod hanesyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, bydd cyfres wleidyddol 'Y Byd yn ei Le' yn dychwelyd ar ei newydd wedd yr wythnos hon ar S4C.
28 Medi 2022
Mae S4C wedi cadarnhau heddiw newidiadau creadigol i'r tîm comisiynu.
29 Medi 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2021/22
4 Hydref 2022
Erbyn hyn, mae Thallo yn enw cyfarwydd yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt ac yn mynd o nerth i nerth. A nawr, mae fideo i'r gân Pluo o'r record fer newydd, Crescent, wedi'i ryddhau ar blatfform Lŵp S4C. Ac mae hi'n werth ei gweld.