Shan Cothi sy'n canu 'O Gymru' i gloi Noson Lawen Dyffryn Tywi gyda chymorth Triawd Myrddin.
Y ddwy chwaer, Kizzy ac Eady sy'n perfformio 'Awdl Y Gododdin' gan ddefnyddio geiriau Cymraeg yr Oesoedd Canol gan y bardd Aneirin gafodd eu cofnodi tua'r 9fed ganrif.
Owain Rowlands, sy'n wreiddiol o Landeilo, sy'n perfformio un o'i hoff unawdau clasurol Cymraeg, 'Bryniau aur fy ngwlad' gan T. Vincent Davies ar Noson Lawen Dyffryn Tywi.
Y gŵr a'r wraig o Gilycwm, Aled ac Eleri Edwards sy'n perfformio 'Dau fel ni' ar lwyfan y Noson Lawen - cân oddi ar eu halbwm o'r un enw.
Harry Luke sy'n cyflwyno'r pedal lŵp i lwyfan y Noson Lawen am y tro cyntaf wrth berfformio ei gân wreiddiol, 'Deunawfed Haf'.
Yr actor a'r canwr, Llew Davies sy'n diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda un o'i ganeuon gwreiddiol o'r enw 'Canu'r gân (gyda chalon lân)'.
Gwennan, Mia a Siwan sef Triawd Myrddin sy'n perfformio trefniant o 'Yfory' ar lwyfan Noson Lawen Dyffryn Tywi.
Rhydian Tiddy, talent ifanc arbennig o Landeilo sy'n perfformio 'The Blue Bells of Scotland' ar y trombôn.
Kizzy Crawford sy'n perfformio ei chân wreiddiol, 'Enquanto Há Vida, Há Esperança' sy'n plethu'r Gymraeg a Phortiwgeaidd ar Noson Lawen Dyffryn Tywi.