Magi Tudur a Tudur Huws Jones, nith a brawd Emyr Huws Jones sy'n perfformio cân o'r enw 'Troi a dod yn ôl' mewn noson arbennig i ddathlu talent y cyfansoddwr.
Bryn Fôn a Ffion Emyr sy'n canu 'Yr un hen gwestiynau' ar lwyfan y Noson Lawen - cân a ysgrifennwyd gan Emyr Huws Jones.
Bois y Fro o ardal Aberystwyth sy'n canu trefniant o 'Rebal Wicend' gan Emyr Huws Jones mewn noson arbennig i ddathlu ei dalent a'i ddawn.
Elidyr Glyn a Magi Tudur sy'n canu trefniant hyfryd o'r ddeuawd 'Cofio dy wyneb' - un o ganeuon serch gorau y cerddor a'r cyfansoddwr, Emyr Huws Jones.
Gethin a Glesni sy'n perfformio 'Rhywbeth yn galw' mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu talent y canwr a'r cyfansoddwr, Emyr Huws Jones. Dyma gân ysgrifennodd ar gyfer ffilm o'r enw 'Yma i aros'.
Bryn Fôn a'r band sy'n cloi'r Noson Lawen i ddathlu talent Emyr Huws Jones mewn steil drwy ganu'r anthem, 'Ceidwad y Goleudy'.
Gwilym Bowen Rhys sy'n perfformio ei fersiwn o o un o ganeuon poblogaidd y Tebot Piws, 'Yr hogyn pren' mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu talent Emyr Huws Jones.
Elidyr Glyn sy'n canu am hanes 'Yr hogyn yn y llun' mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu talent y canwr a'r cyfansoddwr, Emyr Huws Jones.
Lleisiau'r Dyffryn sy'n perfformio trefniant Sian James o 'Gair bach cyn mynd' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu talent arbennig y canwr a'r cyfansoddwr, Emyr Huws Jones.
Robin Evans a Geraint Cynan sy'n perfformio medli o rai o'r caneuon poblogaidd ysgrifennodd Emyr Huws Jones ar gyfer y grŵp Mynediad am Ddim.