Dylan Morris sy'n perfformio 'Aros y nos' ar lwyfan y Noson Lawen mewn rhaglen deyrnged i Tony ac Aloma.
Mewn Noson Lawen arbennig i Tony ac Aloma, Côr Aelwyd yr Ynys sy'n perfformio 'Diolch i ti', cân o ddiolch gyfansoddwyd gan Tony Jones.
Roy James sy'n ymuno â Ffion Emyr a band Noson Lawen i berfformio 'Geiriau' – cân arall o waith Tony Jones.
Aeron Pughe a Catrin Angharad gyda pherfformiad ysgafn o rai o ganeuon hwyliog Tony ac Aloma – 'Dim ond ti a mi', 'Caffi Gaerwen', 'Tri mochyn bach' a 'Mae gen i gariad'.
Ffion Emyr a Rhys Meirion sy'n rhoi perfformiad ysgafn o un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd Tony ac Aloma ar Noson Lawen arbennig i chwedeg mlynedd.
I gloi rhaglen Noson Lawen Tony ac Aloma, Dylan Morris, Catrin Angharad a Hogia' Llanbobman sy'n rhoi perfformiad egniol o ddwy o anthemau mawr y ddeuawd
Wil Tân a Ceri sy'n rhoi eu dehongliad hwy o un o glasuron Tony ac Aloma, 'Cofion gorau' ar lwyfan y Noson Lawen.
Yn canu un o glasuron y cyfnod, 'Wedi colli rhywun sy'n annwyl', Rhys Meirion sy'n perfformio un o ganeuon enwocaf Tony Jones ar Noson Lawen Tony ac Aloma.
Mewn rhaglen arbennig i ddathlu pen-blwydd y ddeuawd Tony ac Aloma, Aeron Pughe sy'n perfformio un o'u caneuon gyda band y Noson Lawen - 'Un freuddwyd fach ar ôl'.
Wyneb cyfarwydd ar lwyfannau'r West End ond un sydd hefyd yn cyfansoddi a pherfformio ei chaneuon ei hun – dyma 'Yr awyr adre' gan Mared Williams ar lwyfan Noson Lawen Sir Conwy.
Dan arweiniad Bethan Smallwood, Côr Merched Aelwyd Llangwm gyda'u trefniant arbennig nhw o 'Dyro wên i mi'.
Y grŵp Lo-Fi Jones o Fetws y Coed sy'n perfformio eu sengl poblogaidd 'Weithiau mae'n anodd' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen o Sir Conwy.
I gwblhau'r arlwy perffaith ar Noson Lawen Sir Conwy, Alys Llywelyn-Hughes a Siôn Lewis, aelodau'r grŵp Cwtsh sy'n ymuno â chriw Lleisiau Llawen i berfformio 'Cymru', gan lenwi'r theatr gyda'i egni heintus.
Y canwr-gyfansoddwr, a llais sioe frecwast Capital Cymru, Alistair James sydd nôl ar lwyfan y Noson Lawen ac wedi dod a'i ffrind, y canwr Dylan Morris hefo fo i berfformio'r gân ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2023, 'Patagonia'.
Byd yr opera sy'n mynd a bryd y mezzo soprano Erin Rossington, sy'n wreiddiol o Lanfair Talhaearn ger Abergele ond bellach yn byw yn Llundain. Dyma'i pherfformiad o 'Quando m'en vo' ar lwyfan y Noson Lawen.
Alistair James a band y Noson Lawen sy'n deffro'r tŷ gyda pherfformiad egniol o'r gân gyfansoddwyd ganddo 'Gwisgodd Elvis erioed sandals'
Mared Williams a Wyn Pearson gyda'u dehongliad hyfryd o gân Caryl Parry Jones, 'Y nos yng nghaer Arianrhod' ar lwyfan y Noson Lawen.
Mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu pen-blwydd Mynediad am Ddim, Lowri Evans a Lee Mason sy'n perfformio 'Padi', un o glasuron y grŵp a chân a gyfansoddwyd gan Emyr Huws Jones.
Mewn rhaglen arbennig i ddathlu pen-blwydd y grŵp gwerin Mynediad am Ddim, Rhys ap William sy'n rhoi ei ddehongliad o 'Mi ganaf gân' gyda band y Noson Lawen.
Arwel Lloyd a band y Noson Lawen sy'n rhoi eu dehongliad hwy o un o ganeuon mwy diweddar y grŵp Mynediad am Ddim, cân a gyfansoddwyd gan Geraint Davies.
Yn canu un o glasuron y cyfnod, 'Fi', Mynediad am Ddim sy'n perfformio un o ganeuon bachog Emyr Huws Jones.
Mynediad am Ddim sy'n perfformio clasur J Glyn Davies 'Fflat Huw Puw' ar lwyfan y Noson Lawen, mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu pen-blwydd y grŵp yn 50.
I gloi rhaglen Noson Lawen Mynediad am Ddim, perfformiad caboledig gan y grŵp o un o anthemau mawr Emyr Huws Jones, 'Ceidwad y goleudy'.
Rhys ap William a band y Noson Lawen sy'n mentro mynd â ni mewn drwy ddrysau' Pappagios'! Mewn rhaglen arbennig i ddathlu pen-blwydd Mynediad am Ddim yn 50.
Perfformiad hyfryd gan Celyn Cartwright a'r grŵp Harmoni o Sir Gâr o ddwy o ganeuon mwyaf poblogaidd Mynediad am Ddim, ar Noson Lawen arbennig i ddathlu'r hanner cant.
Jacob Elwy sy'n ymuno â'r cerddor Oliver Wilson-Dickson a band Noson Lawen i berfformio 'Pendyffryn' – un arall o alawon adnabyddus Mynediad am Ddim.
Mewn rhaglen arbennig i ddathlu Mynediad am Ddim, Jacob Elwy a band y Noson Lawen sy'n perfformio un o'r caneuon serch hyfrytaf, ac un arall gan Emyr Huws Jones, 'Hi yw fy ffrind'.
Y band gwerin o Sir Gâr, Baldande sy'n perfformio 'Elen tyrd yn ôl', un o'r ffefrynnau traddodiadol poblogaidd.
Côr Lleisiau'r Cwm o Lanaman sy'n perfformio 'Yn y bore,' un o ganeuon eu harwr lleol, Ryan Davies.
Yr amryddawn Gillian Elisa sy'n rhoi perfformiad egnïol o'r gân 'Weli Di' i gynulleidfa wresog y Noson Lawen.