28 Chwefror 2025
Y gân Troseddwr yr Awr gan y band Dros Dro yw enillydd Cân i Gymru 2025.
7 Mawrth 2025
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd holl gemau tîm dynion Cymru yn ystod gemau Rhagbrofol Ewrop Cwpan y Byd FIFA 2026 yn cael eu darlledu'n fyw ar draws ei llwyfannau.
13 Mawrth 2025
Mae Prif Weinidog Cymru, y Farwnes Eluned Morgan wedi talu teyrnged i Dafydd Elis-Thomas, y gwleidydd uchel ei barch, gan ei ddisgrifio fel 'un o gewri ein cenedl'.
17 Mawrth 2025
Yn dilyn blwyddyn gyntaf anhygoel, mae Little Wander, S4C a Comedy Lab Cymru Channel 4 (oedd yn arfer cael ei alw yn Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi) yn ôl! Mae'r tri sefydliad yn parhau â'u partneriaeth er mwyn cyflawni'r cynllun ar gyfer egin awduron-berfformwyr comedi Cymreig (ac sydd wedi eu lleoli yng Nghymru), gan ddatblygu cyfleoedd datblygu gyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.
28 Mawrth 2025
Byddwch yn barod ar gyfer Bwmp, y gyfres ddrama chwe rhan ar S4C sydd â chalon, hiwmor ac yn adlewyrchu heriau'r byd go iawn.
31 Mawrth 2025
Mae cyfres boblogaidd S4C, Y Llais, sef fersiwn Gymraeg o'r fformat byd-enwog The Voice, wedi coroni enillydd. Ar ôl y ffeinal fawreddog ar 30 Mawrth, cynulleidfa'r stiwdio oedd yn pleidleisio am enillydd a Rose Datta o Gaerdydd ddaeth i'r brig.
7 Ebrill 2025
Ers bron i ddegawd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bwrdd iechyd mwyaf Cymru, wedi bod yn y penawdau – yn aml am y rhesymau anghywir megis amseroedd aros hir a rhesi o ambiwlansiau yn ciwio y tu allan i ysbytai. Ond y tu hwnt i'r heriau hyn mae straeon o ymroddiad a gwytnwch.
11 Ebrill 2025
Bydd y ddrama garchar afaelgar, Bariau, yn dychwelyd i S4C ar gyfer ail gyfres nos Sul 13 Ebrill am 9yh, gan fynd â gwylwyr yn ôl y tu hwnt i ddrysau cadarn Carchar y Glannau.
16 Ebrill 2025
Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi darpar Gadeirydd newydd i S4C
24 Ebrill 2025
Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 yn fyw.
1 Ionawr 2025
Ar ddechrau'r flwyddyn, cymerwch y cam cyntaf i drawsnewid eich bywyd gyda Tŷ Ffit, cyfres newydd sbon yn cychwyn ar S4C ar 7 Ionawr.
2 Ionawr 2025
Mae llofruddiaeth Gerald Corrigan, a laddwyd gan fwa croes yng nghefn gwlad Ynys Môn, yn parhau i fod yn un o ddirgelion troseddol mwyaf dyrys Cymru. Dyma achos iasol sydd wedi poenydio cymuned yr ynys ers 2019.
14 Ionawr 2025
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd yn 30 mlwydd oed yn 2025, mae cwmni cynhyrchu Rondo Media yn falch iawn o gyhoeddi Cwrs Awduron Newydd i feithrin y genhedlaeth nesaf o awduron teledu Cymraeg.
14 Ionawr 2025
Mae cyfres garu realiti newydd S4C, Amour & Mynydd, eisoes wedi cynnig gwledd o fflyrtio, drama a dagrau hyd yma.
Â'r gyfres wedi cyrraedd hanner ffordd, mae'r dyfroedd yn cael eu cynhyrfu yn rhaglen yr wythnos yma wrth i ddau unigolyn sengl arall ymuno â'r criw'r chalet yn yr Alpau Ffrengig.
27 Ionawr 2025
O ddydd Llun 27 Ionawr, bydd S4C yn cyflwyno bwletin tywydd estynedig yn benodol ar gyfer y diwydiant amaeth.
31 Ionawr 2025
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Llion Iwan wedi ei benodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C.