test edge
Datganiad egnïol o 'Yma o Hyd' gan Fand Pres Llareggub i agor Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau.
Eitem unigryw mewn Noson Lawen yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 wrth i gorau clybiau rygbi De Cymru ymuno i ganu 'Safwn Yn Y Bwlch'
Katy Treharne gyda pherfformiad o un o emynau mwyaf poblogaidd y Cymry, 'Calon Lân' o lwyfan y Noson Lawen yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau.
Band Pres Llareggub yn rhoi golwg newydd ar fyd y bandiau yng Nghymru gyda pherfformiad o 'Mawr Mawr' gan Owain Roberts.
Teyrnged ar ffurf dawns a chân i Arglwyddes Llanofer gan Ddawnswyr a Chôr Aelwyd Bro Taf mewn perfformiad yn cynnwys plethiad o rai o'i chasgliad o alawon traddodiadol o Forgannwg a Gwent.
Miriam, Elan a Non gyda datganiad o gân yn arddull y felan, 'Ysgrifennu Llythyr Bach I'm Hunan'
Rhydian Roberts a Chôr Unedig Clybiau Rygbi De Cymru yn perfformio 'Hafan Gobaith' - cân am angerdd y cariad a gofal mewn hosbis.
Trystan Llyr a Gwydion Griffiths yn dwyn ar gof atgofion am y diweddar Ryan a Ronnie gyda'u perfformiad o 'Blodwen a Meri' ac 'Yn Y Bore'
Ymuna'r holl artistiaid a fu'n rhan o'r Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 i gloi'r noson mewn perfformiad angerddol o 'Byd Yn Un'
Perfformiad o 'Nant y Mynydd a 'Bachgen Bach o Dincer' gan Olion Byw, deuawd gwerin, ar lwyfan y Noson Lawen yn y Brifwyl yn Y Fenni 2016
Trystan Llyr a Gwydion Griffiths yn canu trefniant Jeff Howard o emyn gwladarol Saunders Lewis 'Dros Gymru'n Gwlad' ar gerddoriaeth Sibelius
Ymuna Côr Unedig Clybiau Rygbi De Cymru gyda Rhydian Roberts a Katy Treharne mewn perfformiad sensitif a phwerus o 'Dyrchefir Fi'
Rhys Meirion a pherfformiad o gân Tosti L'alba separa dalla luce l'ombra' sy'n son am doriad y wawr a'r ser yn diffodd.
Magi Tudur a pherfformiad o'i chyfansoddiad Lôn Bost oddi ar ei EP cyntaf.
Jonathan Davies yn perfformio un o'i ganeuon ei hun, Coda ar dy Draed ar Noson Lawen
Perfformiad Gwen Elin o Rwy'n Dy Weld yn Sefyll, cerddoriaeth Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams gyda geiriau Ann Griffiths yr emynyddes o Ddolwar Fach.
Côr Meibion y Penrhyn yn perfformio trefniant eu harweinydd Owain Arwel Davies o'r emyn Pererin Wyf ar yr alaw House of the Rising Sun i gyfeiliant band Noson Lawen a Gwyn Owen ar y trwmped
Perfformiad pwerus o Anthem (Chess) gan Gôr Meibion y Penrhyn, Rhys Meirion a Gwyn Owen
Ymuna Gwen Elin a Jonathan Davies i ganu'r ddeuawd ramantus Rhywbeth Syml
Ffrindiau – pedwarawd o Ogledd Sir Benfro mewn harmoni pur gyda'r gân gellweirus 'Hei Ti'n Cwl'.
'Heddiw, Ddoe, Yfory' gan Robat Arwyn yw teitl y gerddoriaeth a berfformir gan Harmo-NI – côr o ardal Maenclochog yn Sir Benfro ar Noson Lawen.
Andrew Rees a Joe Appleby yn perfformio un o ffefrynnau'r Cymry, 'Ysbryd y Nos'.
Andrew Rees yn canu cân serch o Awstria gan y cyfansoddwr Richard Tauber, 'Die Bist Die Welt Fuer Mich' ar Noson Lawen.
Lowri Evans yn perfformio cân newydd, 'Dyddiau Tywyll Du', mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn Theatr Mwldan, Aberteifi.
Tecwyn Ifan yn dwyn i gof y gwrthryfel yn erbyn y tollau ar y ffyrdd tyrpeg yn y gân 'Ysbryd Rebeca'.
Lowri Evans, y gantores boblogaidd o Drefdraeth yn perfformio un o'i ffefrynnau 'Merch y Myny'.
Tecwyn Ifan yn perfformio'i gân 'Dewines Endor' ar lwyfan y Noson Lawen.
Llond llwyfan o blant yn canu'n angerddol ym mherfformiad Côr Plant Penllyn o'r garol 'Ffynnon Ffydd'.