Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer gwasanaethau Rhwydwaith Darparu Cynnwys a/neu gwasanaethau gweinydd/amgodio aml-ddyfais, amlblatfform. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu yn Siwrnal Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i bob cwmni a busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau'r Gwahoddiad I Dendr (GID) yn y ffurf y gosodir isod. Y dyddiad olaf i S4C dderbyn y GID wedi ei gwblhau yw 16:00 ar 9 Tachwedd 2011.
Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r GID a/neu'r broses dendro hon at: cdnquestions@s4c.co.uk Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r GID yw hanner dydd, 26 Hydref 2011.
Lawrlwytho Gwahoddiad i Dendro
Lawrlwytho Cytundeb Drafft ar Gyfer Gwasanaethau
Cywiriad i ateb 1 uchod: Cyfanswm nifer o oriau o fideo gwreiddiol yn 2010 - 2484:44:55
C. Mae'n ymddangos fod 5 fersiwn wedi'i amgodio wedi cael eu creu ond dim ond 3 proffil amgodio a nodwyd. Ydi hyn yn golygu fod nifer o'r fersiynau amgodio yr un fath, neu ai dim ond 3 fersiwn wedi'i amgodio sydd wedi eu creu?
A. Mae gorgyffwrdd yma - 5 targed, 3 proffil. Mae Android yn rhannu proffil yr iPhone.64K AAC audio yn unig - cael ei greu'n ddynamig gan y gweinydd fideo.Hi 2.1 ar gyfer Mac/PC Base3.0@ 640x360 & 3.0@320x180 ar gyfer iPhone & Android
C. Ydych chi'n disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus i sefydlu a gweithredu cyfleusterau amgodio o fewn eich adeiladau - neu yn y « cwmwl » neu fodel hybrid ? Os y bydd amgodio aml-fformat yn cael ei weithredu yn allanol, a fedr S4C (er mwyn cynyddu cyflymder uwchlwytho) greu un ffeil 'mezzanine' wedi'i amgodio (oddeutu 5-10 mps) gyda chyfarpar y tu allan i sgop y cytundeb hwn, yn hytrach na defnyddio'r fersiwn heb ei gywasgu a ddefnyddir ar gyfer chwarae allan?
A. Hoffem ddarparu prif ffeil (level 'mezzanine' berthnasol i'w gytuno) i'r ymgeisydd llwyddiannus, ac yna i'r fersiynau terfynol gael eu creu yn allanol (oddi ar safle S4C) gan y contractiwr.
C. O fewn y ddogfen dendr, cyfeirir at ffrydio byw. A fydd S4C yn darparu'r amgodwyr ffrydio byw y tu allan i'r cytundeb hwn, ac yn gyfrifol am ddarparu'r ffrydiau byw perthnasol i'r RDC? Neu, a fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu'r amgodwyr byw o fewn adeiladau S4C, (ac os felly, oes yna unrhyw ofynion ee "redundant pair," mewnbwn SDI ayyb)?
A. Bydd S4C yn darparu'r amgodwyr ffrydio byw y tu allan i'r cytundeb hwn ac yn gyfrifol am ddarparu'r ffrydiau byw perthnasol i'r RDC.
C. A yw'n ddehongliad cywir y bydd uwchlwytho ffeiliau (neu ddarparu ffrydiau byw) ar gylched rhyngrwyd o eiddo S4C, ac na fydd unrhyw faterion o ran safon (yn y ffrwd byw sy'n dod i mewn i'n RDC ni) neu oediadau (mewn uwchlwytho ffeiliau gwreiddiol) yn effeithio ar unrhyw SLAs a ddarperir gan yr ymgeisydd llwyddiannus?
A. Ydi, mae hyn yn ddehongliad cywir.
C. Ydi S4C yn disgwyl i ddefnyddio'r pwyntiau cyhoeddi byw ar gyfer cyfnodau cyson neu barhaus o raglenni, ac osfelly, fedrwch chi ddarparu rhai esiamplau?
A. Ydyn - mae pwynt cyhoeddi byw yn cael ei ddefnyddio i ddarlledu'r allbwn yn gydamserol. Mae'r amgodiwr yn rhedeg 24x7 - ond mae'r galw'n amrywio yn ôl poblogrwydd y rhaglen sy'n cael ei darlledu. O bryd i'w gilydd, byddwn yn darparu ffrwd ychwanegol ar gyfer digwyddiadau arbennig ee eisteddfodau, gemau chwaraeon. (<4 gwaith y flwyddyn). Mae rhain unai dros gyfnod hir o tua 1 wythnos (ee Sioe Frenhinol Cymru) neu ddwy awr (ee gem bel droed)
C. Ydi'r gwasanaethau VOD sy'n cael eu dangos fel CF99 a Taro 9 byth yn cael eu newid am ffrydiau byw, ac os felly pa mor aml ac am ba hyd?
A. Mae CF99 a Taro 9 ar gael yn gydamserol ac ar VOD.
C. Fedr S4C gadarnhau y bydd yn cymryd cyfrifoldeb dros recordio ffrydiau byw fel defnydd fel ffeiliau fideo dal-i-fyny maes o law?
A. Medrwn gadarnhau hyn
C. Fedr S4C gadarnhau pa ddarpariaeth, os ogwbl, sydd angen ei wneud ar gyfer isdeitlo ar ffrydiau byw a/neu ffeiliau VOD?
A. Does dim darpariaeth bresennol ar gyfer isdeitlo ar ffrydiau byw. Mae ffrydiau VOD ar gael gyda hyd at ddau opsiwn isdeitlo (Saesneg a/neu Gymraeg). Mae gan oddeutu 80% o raglenni VOD o leiaf un opsiwn isdeitlo.