13 Tachwedd 2009
Cwestiwn ac YmatebCwestiwn 1:Mae'r Gwahoddiad i Dendr (paragraff 1.6.3) yn nodi'r angen i gyflwyno 'Tystiolaeth ysgrifenedig o gefnogaeth i'r ymgeisydd er mwyn galluogi iddo fod yn gynrychioladol o'r holl gwmnïau cynhyrchu'.
a) A oes angen cyflwyno cefnogaeth i'n cais ni gan bob un o'r cwmnïau cynhyrchu?
b) A oes angen i'r dystiolaeth ysgrifenedig ddweud bod y cwmni yn hapus ein bod ni yn cynrychioli'r cwmni hwnnw?
Ymateb 1:a) Mae S4C wedi nodi yn glir ym mharagraff 1.3 bod disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus 'ddarparu gwasanaeth sydd yn gynrychioladol o'r holl gwmnïau cynhyrchu'. Mae'r meini prawf er mwyn gwobrwyo'r cytundeb hefyd yn cyfeirio at allu'r gwasanaeth arfaethedig i fod yn 'Wasanaeth cynrychioladol ar gyfer y cwmnïau cynhyrchu a gomisiynir gan S4C'. Anogir ymgeiswyr i geisio sicrhau cefnogaeth yr holl gwmniau cynhyrchu.
b) Mae angen i gwmnïau cynhyrchu gadarnhau eu cefnogaeth i'r ymgeisydd, a nodi eu bodlonrwydd am allu'r ymgeisydd i gyfarfod â'u gofynion nhw ac S4C am wasanaeth o'r fath.
Cwestiwn 2:Noder fod cyfanswm o 47 cwmni wedi eu rhestru fel aelodau TAC ar hyn o bryd. Oes modd i chi ddarparu amcangyrfif o'r nifer o gwmniau cynhyrchu annibynnol sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth a chyfanswm nifer y rhai a gyflogir? Oes modd i chi roi amcangyrfif i ni o'r nifer o gontractwyr/cyfranwyr a gyflogir gan y cwmniau cynhyrchu annibynol?
Ymateb 2:Comisiynir oddeutu 34 o gwmnïau cynhyrchu yn flynyddol gan S4C. Mae rhai yn gwmnïau grŵp. Mae union nifer y cwmnïau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond mae'r cyfanswm wedi bod yn weddol gyson ers 2002. Mae'r cwmnïau sydd yn darparu cynnwys i S4C yn gallu bod yn aelodau o TAC a/neu PACT.
Mae data a manylion ychwanegol mewn perthynas â'r sector - y sector greadigol yng Nghymru a'r cwmniau sydd yn cyflenwi i S4C - ar gael ar y linc isod.
http://www.s4c.co.uk/abouts4c/annualreport/acrobats/adroddiad-blynyddol-s4c-annual-report-2008.pdf
http://www.s4c.co.uk/abouts4c/corporate/pdf/adroddiad_economaidd_s4c_2007.pdf
http://www.skillset.org/uk/cymru/industry_sectors/article_6852_2.asp
Cwestiwn 3:Dyw'r tender ddim yn cyfeirio at faterion cynhennus. Oes modd cadarnhau os gwelwch yn dda os yw'r gwasanaeth i gynnwys cynrychiolaeth cyfreithiol?
Ymateb 3:Bwriad y gwasanaeth yw darparu fframwaith rhagweithiol sydd yn cefnogi a chynghori'r sector yn eu gweithgareddau - gan gynnwys sefydlu a chefnogi trefniadau datrys anghydfodau. Fodd bynnag nid yw'n fwriad cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol mewn cysylltiad â threfniadau o'r fath yn y cytundeb. Byddai'r fath gostau yn fater i'r cwmnïau cynhyrchu yn unigol.
Cwestiwn 4:Os yw'r tendr yn cael ei wobrwyo i ymgeisydd newydd, yna a fydd gan y gwasanaeth newydd unrhyw hawl i ddefnyddio deunydd a ddarperir ar hyn o bryd gan TAC dan eu cytundeb presennol? Os felly, pa drefniadau sydd yn berthnasol er mwyn caniatau i'r contractiwr newydd dderbyn yr holl wybodaeth.
Ymateb 4:Mae'r cytundebau gyda'r undebau talent wedi eu trafod yn ddiweddar i ystyried effaith darfyddiad y gwasanaeth analog yng Nghymru. Bydd y trefniadau hawliau newydd yn cael eu hadlewyrchu yn y cytundebau hyn.
Os yw'r cytundeb yn cael ei wobrwyo i ymgeisydd newydd yna bydd angen cadarnhau'r trefniadau i sicrhau gweinyddiad di-dor y cytundebau gyda'r undebau. Byddwn hefyd yn ystyried yr angen am gyfnod trawsnewid, i hwyluso trosglwyddiad y trefniadau a'r cyfrifoldebau.
Cwestiwn 5:Allwch chi gadarnhau os gwelwch yn dda, fod modd i gwmnïau cynhyrchu gynnig eu cefnogaeth i fwy nag un ymgeisydd?
Ymateb 5:Rydym eisoes wedi nodi y dylai ymgeiswyr geisio sicrhau cefnogaeth yr holl gwmnïau cynhyrchu. Nid ydym yn rhagdybio y bydd y gefnogaeth honno yn ecsgliwsif i un ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym yn rhagdybio y bydd cwmnïau yn cynnig eu cefnogaeth dim ond mewn sefyllfa lle mae nhw'n fodlon o allu'r ymgeisydd i gyfarfod â'u gofynion nhw ac S4C am wasanaeth o'r fath.
Cwestiwn 6:At bwrpasau diwydrwydd, os modd i chi roi manylion am bersonél y darparwr gwasanaeth presennol, gan gynnwys niferoedd staff, dyddiadau cyflogaeth, nifer y blynyddoedd o gyflogaeth barhaol, cyflogau a buddiannau eraill, cyfnodau rhybudd ac unrhyw delerau perthnasol arall.
Ymateb 6:Mae'r cytundeb presennol yn dirwyn i ben ar y 31/12/2009. Mae sgôp y gwasanaeth sydd i'w ddarparu dan y tendr hwn yn wahanol, ac mae gwerth y cytundeb yn sylweddol is.
Fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3.9 o'r gwahoddiad i dendr, mae'r cwestiwn a yw TUPE yn weithredol ai peidio yn fater cyfreithiol, a bydd rhaid i ymgeiswyr ystyried a cheisio eu cyngor eu hunan. Er gwybodaeth yn unig, deallwn fod tri aelod o staff llawn amser yn gyflogedig gan y sefydliad.
Dylai'r holl ymgeiswyr nodi'r holl ragdybiaethau mewn cysylltiad â chostau trosglwyddo unrhyw staff, fel bod S4C yn glir am sail y cynnig. Cedwir yr hawl i gysylltu gydag unrhyw ymgeisydd gyda chwestiynau yn sgil y wybodaeth/nodiadau a ddarperir.