Gwahoddiad i dendro ar gyfer darpariaeth/trwydded i Offer Rheoli Cynnwys Ar-lein
Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i ddarparu a/neu drwyddedu platfform/offer/meddalwedd ar gyfer darparu swyddogaethau cipio fideo ar-lein, ffrydio'n fyw a chyhoeddi cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau ymateb tendr yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r ymateb tendr i S4C yw canol dydd, dydd Mercher 22 Tachwedd 2017.
Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r tendr hwn a/neu'r broses dendro hon at: Tendr.Cyfathrebu@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r tendr yw canol dydd, dydd Mercher 8 Tachwedd 2017.
Mae ein cynnyrch yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r gofynion a nodir yn y GID mewn perthynas â ffrydio byw ond nid oes gennym wasanaeth sy'n cwmpasu rhai agweddau o'r ddogfen. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn cynghori ar a ydych yn derbyn cynigion ar gyfer gwasanaeth rhannol.
Ateb 1
Mae S4C yn edrych i gytundebu ag un darparwr i ddarparu gwasanaeth sy'n ateb yr holl ofynion a nodir yn y GID. Noder yn y cyd-destun hwn bod S4C yn croesawu cynigion gan gonsortia (gweler rhan 2.3 o'r GID am ragor o wybodaeth). Ar yr amod bod yr holl faterion hawliau wedi eu clirio, caniateir i ddarparwr gynnwys trwyddedau i gynnyrch trydydd parti sydd â'r gallu i integreiddio â chynnyrch y darparwr fel rhan o'r cynnig. Byddai angen sicrhau bod unrhyw gynnyrch trydydd parti o'r fath wedi ei drwyddedu a'i reoli gan y darparwr ac â'r gallu i gael ei drwyddedu i S4C ar gyfer y defnydd arfaethedig.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?