Tendr ar gyfer Gwasanaeth Diogelwch â Gofalwr i S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi Holiadur Cyn-Gymhwyso (Holiadur) ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau Diogelwch â Gofalwr am gyfnod o ddwy flynedd gydag opsiwn i ymestyn y cytundeb am 12 mis pellach. Mae'r gwasanaethau yma ar gyfer prif swyddfa S4C yn Llanisien, Caerdydd. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar wefan sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaeth gwblhau'r Holiadur yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r Holiadur i S4C yw canol dydd, 12 Chwefror 2018.
Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais hwn a/neu'r broses gystadleuol hon at: cwestiwn.tendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses gystadleuol at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol arall yn S4C.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r Holiadur ac/neu'r broses yw canol dydd, 26 Ionawr 2018.