Mae S4C yn cyhoeddi Cais am Bris ar gyfer darpariaeth gwasanaethau datblygu ap 'Dysgu Gyda Cyw'. Mae'r Cais am Bris wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau ymateb yn y ffurf y gosodir yn y dogfennau isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r ymateb i S4C yw canol dydd, dydd Iau 22ain o Awst 2019.
Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r ymateb a/neu'r broses gystadleuol hon at: cwestiwn.tendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, dydd Iau 8fed o Awst 2019.
Cais am Bris ar gyfer creu Ap Dysgu Gyda Cyw (PDF)
Cwestiwn 1
I ba raddau mae disgwyl i ni ymgorffori cymeriadau Cyw yn y gemau a'r ap? Os ydym am eu defnyddio, a oes unrhyw asedau/animeiddiadau a adeiladwyd ymlaen llaw (yn ddelfrydol ffeiliau cyn-animeiddiedig) y gallwn eu defnyddio ar gyfer y gemau er mwyn cynnal cysondeb â brand Cyw?
Ateb 1
Disgwylir i gymeriadau Cyw gael eu hymgorffori a'u defnyddio'n llawn o fewn y gemau a'r ap. Dylai 'Cyw' a cymeriadau eraill Cyw arwain y dysgu a chwarae. Mae modd i S4C ddarparu asedau Cyw, yn ogystal â Chanllawiau Brand Cyw, er efallai na fydd modd darparu ffeiliau cyn-animeiddiedig.
Cwestiwn 2
A yw gwaith trosleisio yn flaenoriaeth ar gyfer yr ap, neu a fydd disgwyl i gynnwys trosleisio gael ei ymgorffori yn yr ap yn hwyrach?
Ateb 2
Gan fod yr ap hwn wedi'i anelu at blant cyn oed ysgol, byddai defnydd prin o destun ysgrifenedig a throsleisio ar gyfer cyfarwyddiadau yn ddefnyddiol ac i'w groesawu. Dylai'r ymgeisydd allu argymell y rhyngwyneb defnyddiwr (UI) mwyaf addas ar gyfer gemau dysgu penodol ar gyfer yr ystod oedran hon. Bydd rhaid i unrhyw drosleisio gael ei gynnwys o fewn adeiladwaith yr ap hwn. Yn y gorffennol mae S4C wedi defnyddio cyflwynwyr Cyw i leisio ein apiau er mwyn darparu dilyniant. Byddai angen cynnwys unrhyw ffioedd ar gyfer artistiaid trosleisio o fewn cyllideb yr ap.
Cwestiwn 3
A fydd effeithiau sain sy'n benodol i gymeriadau Cyw yn cael eu darparu?
Ateb 3
Bydd angen cynnwys seiniau cymeriadau o fewn adeiladwaith yr ap hwn. Gall S4C ddarparu seiniau cymeriad Cyw.
Cwestiwn 4
Sut ydych chi'n disgwyl i'r cyflenwr integreiddio siaradwr Cymraeg rhugl i'r personél allweddol? A yw'n dderbyniol cydweithio â chwmni cyfieithu yr ydym wedi sefydlu perthynas waith agos ag ef a rhestru hyn yn y personél, neu a oes angen aelod penodol o'r tîm i fod yn rhugl?
Ateb 4
Rydym angen o leiaf un aelod o'r personél allweddol i fod yn siaradwr Cymraeg, ac felly i fod ar gael i gyfrannu at y gwasanaethau trwy gydol tymor y cytundeb. Mae'r berthynas gytundebol rhwng y cyflenwr a'r unigolyn Cymraeg o'r fath yn fater i'r cwmni. Mae S4C yn disgwyl i ymgeiswyr allu dangos gallu yn yr iaith Gymraeg o safbwynt addysgeg a chynllunio yn ogystal ag er mwyn dangos dealltwriaeth o sut mae iaith yn gallu effeithio ar ddewisiadau dylunio. Mae'n hanfodol bod ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg o ran ei benodolrwydd yn rhan o'r broses greadigol o'r dechrau, ac er mwyn sicrhau nad yw'r gêm yn gyfieithiad o gêm Saesneg i'r Gymraeg yn unig.
Cwestiwn 5
Pa ffocws ydych chi'n ei ddychmygu bydd gan agwedd addysgol y gemau? A fyddai rhai gemau sy'n delio ag addysgu deallusrwydd emosiynol a sgiliau rhyngbersonol hefyd fod yn berthnasol?
Ateb 5
Rydym yn agored i awgrymiadau ar ba fathau o agweddau addysgol a allai fod gan y gemau. Fodd bynnag, dylent gydgysylltu'n fras ag amcanion dysgu blynyddoedd cynnar ac addysg cyn-ysgol Llywodraeth Cymru. Mae'r cwricwlwm yn y broses o newid ar hyn o bryd, felly dylai eich cynghorwyr allu eich arwain o ran y meysydd blaenoriaeth, a dangos hyn yn eich cais. Fodd bynnag, mae iaith/llythrennedd, datblygiad mathemategol, mynegiant creadigol, gwyddoniaeth a thechnoleg a datblygiad emosiynol a lles yn feysydd a fyddai'n gweddu'n dda.
Gellir gweld mwy o wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen yma: https://llyw.cymru/sites/default/files/publication...
Gellir gweld mwy o wybodaeth am y cwricwlwm newydd yma: https://llyw.cymru/cwricwlwm-newydd-i-ysgolion-tro...