Dwylo Dros y Môr oedd y record elusennol gyntaf yn y Gymraeg. 35 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'r gân wedi'i hail-recordio i helpu pobl sy'n dioddef yn sgil Covid-19. Cyfweliad gyda drymwyr Graham Land a'i fab Siôn sydd wedi recordio ochr yn ochr ar y fersiwn 2020.
TX: Nos Sul 27 Rhagfyr, 8.00
Mewn cyfres o dair rhaglen o Mastermind Plant Cymru, bydd plant rhwng 9-11 oed yn cael y cyfle i brofi eu gallu. Betsan Powys fydd wrth y llyw ac yn gwobrwyo enillydd ar ddiwedd y rhaglen.
TX: Nos Fercher 29 Rhagfyr, 7.00
3. Cymry Feiral: Yn Glits i Gyd
Rhaglen gomedi 'pry-ar-y-wal' gyda doniau dynwaredol Geraint Rhys Edwards yn llywio'r cyfan. Gyda'r Nadolig yn agosáu, mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at hwyl yr ŵyl. Beth all fynd o'i le?
TX: Nos Fercher 29 Rhagfyr, 9.00
Anrheg Nadolig cerddorol i ffans yr opera sebon poblogaidd wrth i Fand Pres Llareggub creu fersiwn arbennig Nadoligaidd o'r gân agoriadol eiconig.
TX: Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig am 8.00
HEFYD
Be' sy'n digwydd yng Nghwmderi?
Cyfle i ddal i fyny â bywyd yng Nglanrafon.