Penodwyd Gaynor Davies yn Olygydd Cynnwys Adloniant S4C.
Mae Gaynor yn gyflwynydd a chynhyrchydd teledu profiadol ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno rhaglen foreol ar Radio Cymru.
Yn enedigol o Ddyffryn Conwy, dechreuodd Gaynor ei gyrfa darlledu gydag HTV ar ddechrau’r wythdegau gan weithio ar raglenni plant, cyn symud i gyflwyno rhaglenni fel Hafoc a Slot Sadwrn ar S4C.
Gaynor hefyd gyflwynodd y syniad ar gyfer Uned 5 a bu’n gweithio fel cyflwynydd ac yna cynhyrchydd ar y gyfres am gyfnod o saith mlynedd. Ers hynny mae wedi gweithio ar gyfresi adloniant megis Y Rhaglen Wirion ‘Na.
Bydd Gaynor yn ymuno â’r Sianel ddiwedd mis Mawrth. Bydd yn adrodd i Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C.
Meddai Rhian Gibson: “Gyda phrofiad eang Gaynor yn y maes adloniant a phlant rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â hi i ddarparu diddanwch ar draws yr amserlen a pharhau i ymestyn y ddarpariaeth adloniadol sydd ag apêl i'r teulu cyfan.”
Meddai Gaynor Davies: “Bydd yn wych cael camu nôl i fyd teledu ac er fy mod wedi mwynhau pob munud o gyflwyno ar y radio, un peth na fyddaf yn ei golli ydi gorfod codi yn blygeiniol am 4.15 bob bore i fynd i fy ngwaith!
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her sydd o ’mlaen a hynny mewn cyfnod cyffrous iawn i S4C.”
Bydd Gaynor, sy’n byw ger Llanrug yng Ngwynedd wedi ei lleoli yn swyddfa S4C yn y gogledd.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?