Bydd ffilm animeiddiedig am wraig ganol oed o’r enw Beryl yn ymuno â Casino Royale a The Queen yng Ngwobrau’r Academi Ffilm Brydeinig eleni.
Mae Beryl, Y Briodas a’r Fideo/Family Ties – Dreams and Desires, ffilm deng-munud o hyd gan yr animeiddwraig arobryn Joanna Quinn, wedi ei henwebu yn y categori ffilm fer animeiddiedig.
Mae’r ffilm, a ddarluniwyd â llaw, yn gydgynhyrchiad rhwng S4C a chwmni Joanna, Beryl Productions International. Mae eisoes wedi ennill llu o wobrau, gan gynnwys y Cartoon D’Or enwog. Mae hefyd wedi cyrraedd rownd gyntaf yr Oscars.
Dyma’r drydedd ffilm gan S4C am Beryl, gwraig a mam optimistaidd ond rhwystredig, sy’n awyddus i gofleidio newid ar ôl i’w phlant dyfu lan a gadael cartref.
Yn y ffilm, mae Beryl, sydd wedi cael camera fideo yn anrheg, yn mynychu priodas ffrind i’r teulu, er mwyn ei ffilmio. Aiff pethau o chwith pan fo syniadau Beryl am greu’r ffilm yn mynd yn groes i gonfensiynau traddodiadol diwrnod priodas.
Meddai Joanna Quinn: “Rwyf wrth fy modd fod Beryl wedi ei hatgyfodi ac yn symbol o frwdfrydedd a hiwmor da sy’n ysbrydoli pawb i roi tro arall ar yr hyn maent wirioneddol eisiau ei gyflawni mewn bywyd. I ddyfynnu Beryl ei hun . . .’Angerdd – mae’n rhaid ei gael e!’ Viva Beryl!”
Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd y ffilm gan Les Mills. Meddai Les, “Mae’n ffantastig i fod ynghlwm wrth gynhyrchu ffigwr mor ddidwyll a gwrth-arwrol sydd wedi ei chreu yng Nghymru ond sydd ag iddi apêl ryngwladol. Byddai ennill BAFTA yn goron ar y cyfan i’r tîm i gyd ac efallai y caiff Joanna gip ar Brad Pitt yn ystod y seremoni!”
Meddai Pennaeth Cynnwys S4C Meirion Davies, a gomisiynodd y ffilm yn wreiddiol, “Mae animeiddiadau Joanna yn cyfuno arddull weledol nodedig gyda straeon soffistigedig, hiwmor a chymeriadau hoffus a huawdl. Mae’r ffilm ddiweddaraf hon yn lot fawr o hwyl.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?