Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau yn ecsgliwsif ar deledu daearol o’r gêm grwp allweddol rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru o Barc Croke, Dulyn ar nos Sadwrn, 24 Mawrth.
Bydd y Sianel yn dangos yr uchafbwyntiau yn fuan ar ôl y chwiban terfynol yn ystod y rhaglen bêl-droed, Y Clwb Pêl-droed (19.10pm), a fydd hefyd yn dangos uchafbwyntiau o’r gêm gynghrair rhwng Hwlffordd a’r Trallwng ymhlith gêmau eraill.
Mae S4C hefyd am ddarlledu uchafbwyntiau estynedig o gêm grwp Cymru yn erbyn San Marino yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop nos Fercher (22.30pm) o Stadiwm y Mileniwm.
Dywed Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands, “Rydym yn hynod falch ein bod yn darparu uchafbwyntiau o’r ddwy gêm hollbwysig yn rowndiau rhagbrofol Cymru. Mae’n wasanaeth y bydd gwylwyr S4C yn ei werthfawrogi’n fawr ac fe ddaw yn ystod wythnos pan ydym hefyd yn darlledu rygbi byw o dair cystadleuaeth wahanol ac amrywiaeth eang o raglenni uchafbwyntiau chwaraeon. Mae’r cyfan yn adlewyrchu amrediad eang o hawliau chwaraeon S4C.”
Yr wythnos hon hefyd bydd modd gwylio uchafbwyntiau gêm Sgarlets v Munster yn rownd gogynderfynol Cwpan Heineken; gêm fyw rownd gynderfynol Cwpan yr EDF rhwng y Gweilch a’r Gleision, gêm fyw rownd gogynderfynol rhwng Llanelli a Phontypridd yng Nghwpan y Konica Minolta a gêm fyw Dreigiau v Brive yng Nghwpan Her Ewrop, Rygbi’r Byd (ar S4C Digidol yn unig) a’r gorau o gêmau pêl-droed Ewrop yn Sgorio.
Bydd y darllediadau chwaraeon hefyd ar gael ar S4C Digidol. Mae modd gwylio S4C Digidol ar Sky135 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yng Nghymru, ar Sky 104, Freeview 4 a Virgin TV 194.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?