14 Mawrth 2007
Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng lasagne a limoncello? Tortellini a tiramisu? Os felly, ewch ati pronto – gallech chi fod ymhlith yr wyth cyw chef ar daith i’r Eidal gyda chogydd S4C Dudley Newbery.
Mae Dudley’n chwilio am gogyddion brwd Cymraeg eu hiaith i gystadlu yng nghyfres realiti S4C, Casa Dudley. Os allech chi gadw’ch pen mewn cegin yn Yr Eidal ym mis Mehefin gyda’r cogydd poblogaidd o Ynys-y-bwl, yna cysylltwch â chynhyrchwyr y gyfres, Opus TF ar 029 20223 456 neu ewch i www.s4c.co.uk/casadudley a lawrlwytho ffurflen gais.
Mae union leoliad Casa Dudley – a phrif wobr y gyfres – yn gyfrinachol, ond mae Dudley’n addo y bydd y criw llwyddiannus yn cael profiad bythgofiadwy o fwyd, a bywyd, Yr Eidal.
Meddai Dudley Newbery, “Os ydych chi’n dwlu ar goginio a bwyd da, ac eisiau dysgu am ffordd yr Eidalwyr o fyw, a’ch bod chi’n mwynhau her, yna chi yw’r person delfrydol ar gyfer Casa Dudley. Mae’r Eidal yn baradwys i’r rhai sy’n mwynhau eu bwyd a does ‘na’r un wlad well yn y byd i ddysgu sut mae datblygu cuisine amrywiol gan ddefnyddio amrediad eang o gynnyrch ffres.”
Bydd y gyfres Casa Dudley yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref, yn dilyn llwyddiant y gyfres flaenorol, Chez Dudley, a ffilmiwyd mewn ysgol goginio yn Provence.
Cynhelir rowndiau agoriadol y gyfres yn Llandrillo ar Ebrill 21, Aberteifi ar Ebrill 22, Caerfyrddin ar Ebrill 28 a Chaerdydd ar Ebrill 29. Bydd angen i’r cystadleuwyr ddod â chwrs cyntaf neu bwdin, a’i aildwymo ar leoliad os oes angen. Yna bydd panel o feirniaid, o dan arweiniad Dudley, yn beirniadu’r bwyd, a’r cogyddion sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ail rownd o gystadlaethau coginio.
Un roddodd gynnig arni’r llynedd, a llwyddo i ennill prif wobr Chez Dudley, sef wythnos yn ysgol goginio Raymond Blanc, Le Manoir aux Quat’Saisons, oedd Jan Wilson-Jones.
Meddai Jan Wilson-Jones, sy’n dysgu’n rhan amser yn Ysgol Trefnant ger Dinbych, “Bydden i’n annog unrhyw un sy’n mwynhau coginio i geisio am le ar Casa Dudley. Dyma un o brofiadau gorau ‘mywyd. Nes i ‘rioed ddychmygu y bydden i’n coginio i chefs sydd â sêr Michelin, fel y rhai a redai’r ysgol yn Provence. Mae mynd i’r Eidal yn swnio’r un mor gyffrous, gyda thraddodiad gwych y wlad o goginio.”
Bydd Jan yn mwynhau’r wobr a enillodd ar Chez Dudley dros y Pasg. “Rydw i wir yn edrych ymlaen at y profiad a bydd yn help o ran adeiladu ar be’ dwi wedi’i ddysgu’n barod. Mae Chez Dudley wedi bod yn gymaint o help i fi godi’n hyder. Rydw i eisoes yn gwneud rhywfaint o waith teledu ac mae gen i sioeau bwyd ar y gweill dros yr haf a chinio mewn gwesty yn Rhuthun. Fel athrawes, rydw i’n helpu sefydlu gweithdai bwyta’n iach hefyd.
“Mae hyn i gyd diolch i’r gyfres, lle ges i gefnogaeth wych gan bawb ar y tîm cynhyrchu, ac mae gen i ffrindiau oes. Gallai Casa Dudley wneud yr un peth dros rywun arall.”
Ychwanega Dudley, “Yr hyn alla i addo yw y bydd holl gystadleuwyr Casa Dudley yn cael profiad cwbl fythgofiadwy.”