S4C yn ennill prif wobrau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd
02 Ebrill 2007
Cipiodd S4C bedair prif wobr yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2007, a gynhaliwyd eleni ar Ynys Skye yn yr Alban.
Roedd gan Opus TF, cwmni cynhyrchu annibynnol o Gaerdydd, ddau reswm i ddathlu ar ôl i ddau o’u cynyrchiadau ennill mewn categorïau gwahanol.
Enillodd cyfres ddrama ysgafn S4C, Cowbois ac Injans, sydd newydd orffen ei hail gyfres ar y Sianel, wobr ‘Cyfres Ddrama Orau’ yr Ŵyl.
Disgrifiwyd y gyfres, sy’n cymryd golwg ddychmygol ar fywyd cymeriadau mewn busnes gwerthu ceir yng Ngorllewin Cymru, gan y beirniaid fel cyfres “llawn newydd-deb a ffresni, gyda sgript ddoniol, cast cryf ac, yn fwy na dim, yn lot o hwyl ac yn ddifyr dros ben.”
Daeth ail lwyddiant Opus TF yn y categori adloniant am y portread cofiadwy o’r pianydd disglair o Rosllanerchrugog, Llŷr Williams yn y rhaglen ddogfen Y Pianydd: Llŷr Williams. Credai’r beirniaid fod “y rhaglen wedi rhoi darlun craff o feddwl a chymeriad cymhleth y pianydd. Roedd yn gampus ac yn ddifyr.”
Cydnabuwyd rhagoriaeth S4C yn y maes animeiddio unwaith eto yn yr Ŵyl, wrth i’r cwmni animeiddio o Gaernarfon, Griffilms ennill y wobr animeiddio gorau am Map yr Underground - “darn o waith atgofus a chreadigol dros ben.”
Bu i S4C gyfrannu hefyd at un o lwyddiannau Iwerddon yn yr Ŵyl, wrth i fersiwn Gaeleg Wyddeleg y cyd-gynhyrchiad rhyngwladol Llygad y Bwystfil gipio’r wobr yn y ‘Categori Ieuenctid’. Er i Puca agus Peist gael ei darlledu ar TG4 Iwerddon, fe’i cynhyrchwyd gan Cwmni Da o Gaernarfon ar gyfer S4C ac S4C Rhyngwladol fel cyd-gynhyrchiad rhyngwladol a ddarlledwyd hefyd ar S4C yn Gymraeg. Roedd animeiddiadau gan gwmni Joanna Quinn, Beryl Productions yn y rhaglen hefyd.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn hynod blês â’n llwyddiant yn yr Ŵyl eleni. Llongyfarchiadau i’r tri chwmni cynhyrchu ar eu llwyddiant mewn achlysur cyfryngau rhyngwladol sy’n denu ymgeiswyr o bob rhan o Brydain ac ymhellach i ffwrdd. Mae’r pedwar cynhyrchiad yn adlewyrchu bwriad S4C o gyrraedd rhagoriaeth greadigol trwy ddiddanu cynulleidfaoedd.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?