29 Mai 2007
Bydd perfformwyr byd enwog, gan gynnwys José Carreras, Bryn Terfel, Rebecca Evans, Gwyn Hughes Jones a’r pianydd Llŷr Williams, yn rhan o arlwy S4C yr haf hwn wrth i’r Sianel baratoi i ddarlledu dros 300 awr o deledu byw o ddigwyddiadau mwya’r wlad.
Dechrau’r cyfan yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr yr wythnos hon, gydag S4C yn darlledu dros 90 awr o raglenni byw o’r Ŵyl ar S4C, S4C digidol ac S4C2 yn ogystal â thros ugain awr o uchafbwyntiau.
Bydd yn bosibl dilyn holl arlwy S4C digidol ar s4c.co.uk/urdd neu urdd.org. Yn ogystal â gwylio'r cystadlu o’r prif bafiliwn yn fyw ar y we bydd modd hefyd gwylio eitemau estynedig a chlipiau fideo o gystadlaethau ar gais fydd ar gael hyd at 35 diwrnod wedi’r Eisteddfod.
Cynigir gwasanaeth “botwm coch” i’r gwylwyr adref sy’n derbyn Sky gyda’r adnodd yn eu caniatáu i newid yn rhwydd rhwng S4C digidol ac S4C2.
Perfformiad y tenor operatig, José Carreras yw uchafbwynt Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Darlledir ei gyngerdd yn fyw ar S4C ar y nos Sul olaf, 15 Gorffennaf.
Bydd Gwyn Hughes Jones a Llŷr Williams yn rhannu’r llwyfan mewn cyngerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Sadwrn, 11 Awst, a fydd i’w darlledu’n fyw ar S4C ynghyd â darllediadau cynhwysfawr o’r cystadlu.
Bydd nifer o enwau mawr o’r byd operatig fel y bariton o Sbaen, Carlos Alvarez, y tenor o Fecsico, Ramón Vargas a’r soprano o Gymru, Rebecca Evans yn cadw cwmni i Bryn Terfel yng Ngŵyl y Faenol eleni ar nos Sadwrn, 25 Awst gyda’r gyngerdd i’w gweld mewn rhaglen uchafbwyntiau ar S4C.
Fis Gorffennaf bydd S4C yn dod â holl fwrlwm y Sioe Fawr yn fyw i’ch cartrefi, yn ogystal â Sesiwn Fawr Dolgellau. Yng ngŵyl HSBC Jazz Aberhonddu bydd perfformiadau gan yr artistiaid Jools Holland, Humphrey Lyttleton, Lulu a’r Big Chris Barber Band. Bydd S4C hefyd yn darlledu o Ŵyl Rasio Harnes Tregaron ddiwedd Awst.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Dros fisoedd yr haf, mae prif didgwyddiadau Cymru yn cael lle blaenllaw yn ein hamserlen. Mae ein rhaglenni yn cynnwys darllediadau o’r prif wyliau sy’n dod â cherddoriaeth fyd-eang i Gymru. Ar ben hyn, S4C fydd y dewis naturiol ar gyfer darllediadau cynhwysfawr o faes y Sioe Fenhinol.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion: Bydd S4C yn darlledu o’r digwyddiadau canlynol:
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (cynhelir 28 Mai - 2 Mehefin)
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen (cynhelir 10-15 Gorffennaf)
Sesiwn Fawr Dolgellau (cynhelir 20-21 Gorffennaf)
Y Sioe Frenhinol (cynhelir 23-26 Gorffennaf)
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fflint a’r Cyffiniau (cynhelir 4-11 Awst)
HSBC Jazz Aberhonddu (cynhelir 9-12 Awst)
Gŵyl y Faenol Bryn Terfel (cynhelir 24-27 Awst)
Rasus Tregaron (cynhelir 24-25 Awst)
Gweler y wasg leol neu ymwelwch ag s4c.co.uk/haf07 am fwy o fanylion