Mae ffilm S4C am wraig ganol oed o’r enw Beryl, sydd eisoes wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol, wedi ennill tlws Bafta Cymru am yr Animeiddio Gorau.
Mae Beryl, Y Briodas a’r Fideo/Family Ties – Dreams and Desires, ffilm ddeng-munud o hyd gan yr animeiddwraig arobryn, Joanna Quinn, a gynhyrchwyd i S4C gan Beryl Productions, yn ymuno â saith rhaglen arall S4C fu’n fuddugol yn Seremoni Bafta Cymru.
Cyflwynwyd Gwobr Gwyn Alf Williams, a ddyfarnir i’r rhaglen neu gyfres a gyfrannodd fwyaf at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru, i Judith Davies a Jonathan Owen am Aberfan, rhaglen ddogfen yn nodi deugain mlwyddiant y drychineb, a gynhyrchwyd yn Gymraeg i S4C ac yn Saesneg i ITV Cymru.
Enillodd dau gynhyrchiad S4C a ddaeth i’r brig yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd wobrau Bafta Cymru. Bachodd y rhaglen ddogfen, Y Pianydd – Llŷr Williams, a gynhyrchwyd gan Opus TF, y wobr am y Rhaglen Gerddorol Orau. Enillodd Gareth Bryn y wobr am y Newydd Ddyfodiad Gorau, am ei waith fel cyfarwyddwr y ddrama ysgafn, Cowbois ac Injans, a gynhyrchwyd gan Opus TF.
Enillodd Campyfan, a gynhyrchwyd i S4C gan BBC Cymru, y wobr am y Rhaglen Blant Orau. Enillodd rhifyn o’r gyfres materion cyfoes, Taro Naw, am drychineb Chernobyl, a gynhyrchwyd i S4C gan BBC Cymru, y wobr am y Materion Cyfoes Gorau.
Daeth sioe adloniant S4C, Jones Jones Jones i’r brig yn y categori Sain Gorau. Cynhyrchwyd y sioe gan Gwmni Da. Enillodd Paparazzi, a gynhyrchwyd gan Fflic, y wobr am y Graffeg/Teitlau Gorau.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae’r gwobrau hyn, ar draws ystod o gategorïau a meysydd rhaglenni, yn adlewyrchu cryfder y bartneriaeth greadigol rhwng S4C a’r sector annibynnol a’r BBC. Llongyfarchiadau i bawb.”
Diwedd
Nodyn i’r golygydd
Mae Beryl, y Briodas a’r Fideo/Dreams & Desires - Family Ties wedi ennill dros 25 o wahanol wobrau, gan gynnwys prif wobr animeiddio Ewrop, y Cartoon D’Or; Gwobr y Gynulleidfa - Ffilm Orau’r Ŵyl, Annecy Ffrainc; Gwobr Grand Prix Ffilm Orau’r Ŵyl, Zagreb AniFest Croatia; Ffilm Fer Orau Grand Prix, Gŵyl Animeiddio Rhyngwladol China Shanghai.
Enillodd Cowbois ac Injans y wobr am y Gyfres Ddrama Orau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
Enillodd Y Pianydd: Llŷr Williams y wobr am yr Adloniant Gorau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?