Mae Clive Jones wedi ei benodi yn aelod anweithredol o Fwrdd Cyfarwyddwyr S4C.
Bydd y cyn Brif Weithredwr ITV News and Regions yn ymuno ar unwaith â’r Bwrdd, sy’n gyfrifol am sicrhau fod amcanion a thargedau S4C yn cael eu gweithredu a’u cyfathrebu’n effeithiol.
Fel yr unig gyfarwyddwr anweithredol, bydd gan Clive fewnbwn i fframwaith gweithredol y Bwrdd a datblygiad y Sianel ar gyfer y dyfodol.
Bu Clive yn gweithio fel Cyd Reolwr Gyfarwyddwr ITV Network Ltd ac ef yw Cadeirydd anweithredol GMTV. Mae’n cadeirio Cronfa Eiddo Deallusol Creadigol Cymru a Busnes Creadigol Cymru i Lywodraeth y Cynulliad, a Mediabox, cronfa ieuenctid £6m newydd y Llywodraeth. Gwnaed Clive yn gymrawd o’r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 1997.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, sy’n cadeirio’r Bwrdd: "Mae gan Clive brofiad helaeth o’r diwydiant darlledu yn y DU ar y lefel uchaf a bydd yn gaffaeliad mawr wrth gynorthwyo S4C i gyflawni ei rôl gyhoeddus unigryw. Mae’n fraint cael ei groesawu yn aelod o’r Bwrdd.”
Meddai Clive Jones: "Mae S4C yn chwarae rhan allweddol yn yr ecoleg darlledu Brydeinig a rôl ganolog yng nghymdeithas Cymru. Rwy’n falch iawn i ymuno â’r Bwrdd i helpu sicrhau annibyniaeth a dyfodol y Sianel.”
Yn wreiddiol o dde Cymru, addysgwyd Clive yn Ysgol Ramadeg Newbridge a’r London School of Economics. Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr papur newydd cyn symud i’r maes darlledu.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?