Pa gôr yw’r gorau yng Nghymru? Dyna’r cwestiwn fydd yn cael ei ateb ar S4C nos Sul wrth i bedwar côr wynebu ei gilydd yn rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2007.
Gyda darllediad byw o Neuadd y Celfyddydau, Aberystwyth, yng nghwmni’r cyflwynwyr Nia Roberts a Gareth Owen, bydd y corau yn cystadlu am brif wobr o £5,000. Mae pob côr yn y ffeinal eisoes wedi ennill £1,500 trwy ddod i’r brig yn eu rowndiau blaenorol.
Y corau sy’n cystadlu yn y rownd derfynol ydy Côr y Drindod o Gaerfyrddin (Côr Ieuenctid), Côr Meibion y Fflint (Côr Meibion), Côr Iau Glanaethwy o ardal Ynys Môn a Gwynedd (Côr Plant) a Cywair o Gastellnewydd-emlyn (Côr Cymysg).
Tri beirniad rhyngwladol sydd wedi derbyn y dasg anodd o benderfynu ar enillydd mewn cystadleuaeth fydd yn siŵr o fod yn frwydr agos. Y tri yw André Van der Merwe o Dde Africa, Vasily Petrenko o Rwsia a Huw Williams o Gymru.
Yn Is-organydd a Dirprwy Cyfarwyddwr Cerdd yn Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain ers 1998 mae Huw Williams, sy’n enedigol o ardal Abertawe, ond sydd bellach yn byw yn Llundain, yn mwynhau bod nôl yng Nghymru ar gyfer y gystadleuaeth hon. Mae hefyd wedi mwynhau cyfarfod â’i gyd feirniaid. Dywed fod rhai o ganlyniadau’r rowndiau blaenorol wedi bod yn agos iawn.
“Rwy’n edrych ymlaen at y rownd derfynol. Beth sy’n gyffrous ydy y bydd y corau yn canu rhaglenni newydd a fydd yn sialens iddyn nhw. Bydd yn ddiddorol gweld pa gôr wnaiff wynebu’r her gydag arddeliad.”
Diwedd
Côr Cymru 2007
Sul, 29 Ebrill
S4C, 7.30pm
Arweinyddion y pedwar côr ydy:
Eilir Owen Griffiths (Côr y Drindod)
Huw Dunley (Côr Meibion Fflint)
Islwyn Evans (Cywair)
Rhian Roberts (Côr Iau Glanaethwy)
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?