Cyhoeddir enwau’r tri enillydd yn nhri chategori Gwobrau Tir na n-Og 2007 – cynllun Cyngor Llyfrau Cymraeg i anrhydeddu awduron llyfrau plant – mewn rhifyn arbenning o Wedi 7 ar S4C nos Lun Gŵyl y Banc, Mai 7 am 7.15pm.
Cyflwynir y gwobrau’n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau a chyhoeddwyd y rhestr fer yn y tri chategori ym mis Mawrth. Bydd y tri enillydd yn derbyn gwobr o £1,000 yr un.
Cyflwynydd Wedi 7 Heledd Cynwal fydd yn datgelu pwy yw’r enillwyr eleni ac fe fydd y rhaglen yn rhoi portread ohonynt ac yn eu cyfweld.
Yr enwau ar y rhestr fer yn y Categori Cynradd Cymraeg yw Emily Huws o Gaeathro, Caernarfon am ei llyfr ‘Babi Gwyrdd’, Mair Wynn Hughes o Bentraeth, Ynys Môn am ei llyfr ‘Ein Rhyfel Ni’ a Catherine Fisher o Gasnewydd am ‘Y Wisg Enfys’. Mae’r tair yn gyn-enillwyr gwobrau Tir na n-Og.
Yn y Categori Uwchradd Cymraeg y rhai ar y rhestr fer yw Gareth F.Williams, o Borthmadog ond yn awr yn byw ym Mro Morgannwg, am ‘Adref Heb Elin’, Angharad Devonald o Gaerdydd am ‘Angst ac Anawsterau’ a Caryl Lewis o Aberaeron am ‘Ffêc Tan, Rissole a Tships.’ Mae Gareth F.Williams a Caryl Lewis yn gyn-enillwyr Tir na n-Og.
Yr enwau yn y trydydd categori sy’n gwobrwyo Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn yw Daniel Morden o Gasnewydd am ‘Dark Tales From the Wood’, Kevin Crossley-Holland, cyn-enillydd Tir na n-Og, am ‘Gatty’s Tale’ a David Clement-Davies am ‘The Telling Pool.’ Mae’r amodau yn y categori hwn yn gofyn am waith sydd â chefndir Cymreig.
Medd Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Blant y Cyngor Llyfrau, “Mae’r gwobrau hyn yn anrhydeddu gwaith awduron llenyddiaeth plant yng Nghymru ac mae’r safon unwaith eto eleni wedi bod yn uchel iawn. Rydym yn falch o’r cyfle i gael cydnabod llafur yr awduron a’r cyhoeddwyr ac mae'n bleser cael cydweithio gyda Wedi 7 i roi sylw haeddiannol i'r gwobrau.”
Sefydlwyd y gwobrwyon ym 1976 ac fe’u noddir gan Gymdeithas y Llyfrgellwyr, CILIP Cymru.
Wedi 7
Nos Lun, Mai 7, 7.15pm, S4C
Isdeitlau Saesneg ar gael
Cynhyrchiad Tinopolis ar ran S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?