08 Ebrill 2010
Mae tair ffilm afaelgar S4C - Ryan a Ronnie, Cwcw ac Ar y Tracs - wedi derbyn nifer helaeth o enwebiadau ar gyfer seremoni Bafta Cymru 2010, i’w chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd nos Sul 23 Mai.
Mae’r enwebiadau yma ymhlith y 44 a dderbyniodd S4C am amrywiaeth eang o gynyrchiadau - gan gynnwys dogfen, adloniant ysgafn a cherddoriaeth. Eleni, mae 55% o’r rhaglenni sydd wedi derbyn enwebiadau gan Bafta Cymru wedi bod yn Gymraeg eu hiaith.
Y ffilm Ryan a Ronnie sydd wedi cael y nifer fwyaf o enwebiadau o blith rhaglenni S4C gyda chwe enwebiad, gan gynnwys Y Ffilm/Drama Orau, Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin a’r Actor Gorau ar gyfer portread Aled Pugh o Ryan Davies.
Mae’r ddrama feiddgar Cwcw, gan yr awdur Delyth Jones, hefyd wedi’i henwebu yng nghategori’r Ffilm/Ddrama Orau. Mae portread pwerus yr actores Eiry Thomas o Jane Jones yn y ffilm Cwcw wedi dal sylw Bafta Cymru yng nghategori’r Actores Orau. Ymhlith yr enwebiadau eraill i Cwcw mae’r Cynllunio Gorau a’r Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.
Mae Ar y Tracs, drama ag ysgrifenwyd ar y cyd gan seren Gavin and Stacey, Ruth Jones a’r awdur Catrin Dafydd, hefyd wedi ennill pedwar enwebiad mewn ystod eang o gategoriau.
Mae’r ffilmiau Ar y Tracs a Ryan a Ronnie hefyd wedi cael eu henwebu ar gyfer y wobr Cyfarwyddwr Gorau: Drama, gydag Ed Talfan, cyfarwyddwr Ar y Tracs, a Rhys Powys, cyfarwyddwr Ryan a Ronnie, yn cystadlu am y brif wobr.
Mae cynyrchiadau drama eraill S4C yn amlwg hefyd yn y rhestr enwebiadau. Mae Teulu, sy’n dilyn hynt a helynt bywydau teulu yng Ngheredigion, wedi cael eu henwebu yn y categori Cyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu.
Mae Mali Harries, sy’n chwarae un o brif gymeriadau’r gyfres ddrama Caerdydd, wedi derbyn enwebiad yng nghategori’r Actores Orau, tra bod ei gŵr Matthew Gravelle, a bortreadodd Lyn yn y ddrama feiddgar Y Pris, yn herio Ryland Teifi (Caerdydd) am Yr Actor Gorau.
Cafodd y ddrama ddogfen Carwyn, portread pwerus ar un o hyfforddwyr rygbi mwyaf llwyddiannus y byd, Carwyn James, bedwar enwebiad. Mae Carwyn, sy’n gynhyrchiad gan Greenbay Media, wedi ei henwebu am ystod eang o wobrau gan gynnwys Y Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau, Y Camera Gorau: Heblaw Drama, Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin a’r Cyfarwyddwr Gorau.
Mae’r rhaglen ddogfen Dwy Wraig Lloyd George gyda Ffion Hague, sy’n olrhain hanes y menywod ym mywyd Lloyd George, hefyd wedi ei henwebu mewn tri chategori. Bydd y rhaglen yn cystadlu am y gwobrau Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau, Y Camera Gorau: Heblaw Drama a’r Cyfarwyddwr Gorau.
Mae S4C wedi derbyn ystod o enwebiadau am ei rhaglenni cerddoriaeth. Un o’r cynyrchiadau dderbyniodd enwebiadau oedd Papa Haydn gan gwmni cynhyrchu P.O.P. 1. Mae Elin Manahan Thomas, cyflwynydd y gyfres, wedi ei henwebu ar gyfer y wobr Y Cyflwynydd Gorau ar y Sgrin, ac mae’r gyfres yn derbyn enwebiad am y Rhaglen Gerddorol Orau. Mae cynhyrchiad a fu’n cynnwys perfformiadau gan y pianydd Llŷr Williams, Llŷr yn Carnegie, hefyd wedi ei henwebu yn y categori Rhaglen Gerddorol Orau.
Mae Cyngerdd Dathlu Karl Jenkins, cyngerdd i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr byd-enwog, Cyngerdd Rhydian, cyngerdd teledu cyntaf seren The X Factor - Rhydian Roberts, a Chyngerdd Sêr y Steddfod, a fu’n cynnwys perfformiadau gan Only Men Aloud, hefyd wedi derbyn enwebiad yr un.
Mae darllediadau cynhwysfawr S4C o Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009, a gynhyrchir gan BBC Cymru, wedi derbyn enwebiad yn y categori Darllediad Gorau o Ddigwyddiadau Byw.
Mae S4C yn arwain y ffordd yng nghategori Adloniant Ysgafn Gorau wrth i dair o raglenni’r sianel fynd benben â'i gilydd. Tudur Owen o’r Doc, Fferm Ffactor a Dudley - Pryd o Sêr yw’r dair yn y categori. Mae’r digrifwr Tudur Owen wedi ei gynnwys fel Y Cyflwynydd Gorau ar y Sgrin.
Cafodd y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar sy’n dilyn mewnfudwyr ei henwebu yng nghategori Y Newyddion a Materion Cyfoes Gorau. Mae’r gyfres materion cyfoes i bobl ifanc, Hacio, ar y rhestr fer ar gyfer Y Rhaglen Ieuenctid Orau am y rhifyn arbennig am gynhadledd y G20.
Mae un o brif gyfresi Cyw - gwasanaeth meithrin S4C - Cei Bach, wedi ei henwebu am Y Rhaglen Blant Orau.
Mae tri chynhyrchiad gan S4C, O’r Galon: Canfod Hedd, Y Daith a Ralio+, wedi cael eu henwebu yn y categorïau Y Golygydd Gorau, Teitlau Gorau a’r Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydw i’n falch iawn fod cynifer o raglenni S4C wedi cael eu henwebu. Mae’r ystod eang o raglenni ym mhob maes yn dangos dyfnder talent a chreadigrwydd cynhyrchwyr rhaglenni teledu ledled Cymru.”
ENWEBIADAU BAFTA CYMRU 2010 S4C
Y Ffilm/Ddrama Orau
Cwcw – Delyth Jones/Bethan Eames (Fondue Films)
Ryan a Ronnie - Branwen Cennard / Marc Evans (Boomerang Plus ccc)
Y Gyfres Ddrama Orau ar gyfer Teledu
Teulu – Rhys Powys / Branwen Cennard (Boomerang Plus ccc)
Y Newyddion a Materion Cyfoes Gorau
Y Byd ar Bedwar (Mewnfudwyr) – Geraint Evans (ITV Cymru)
Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau
Carwyn – Dylan Richards / John Geraint (Greenbay Media)
Dwy Wraig Lloyd George gyda Ffion Hague – Catrin Evans (Tinopolis)
Yr Adloniant Ysgafn Gorau
Dudley – Pryd o Sêr – Dudley Newbery / Garmon Emyr (Rondo Media)
Tudur Owen o’r Doc – Angharad Garlick / Beth Angell (Boomerang Plus ccc)
Fferm Ffactor – Neville Hughes / Non Griffith (Cwmni Da)
Y Rhaglen Gerddorol Orau
Llŷr yn Carnegie – Hefin Owen (Rondo Media)
Papa Haydn – Rhian A. Davies (P.O.P. 1)
Y Rhaglen Blant Orau
Cei Bach – Siân Teifi (Sianco)
Y Rhaglen Ieuenctid Orau
Hacio ‘G20’ – Branwen Thomas (ITV Cymru)
Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama
Y Pris – Steve Lawes (Fiction Factory)
Ryan a Ronnie – Peter Thornton (Boomerang Plus ccc)
Y Camera Gorau: Heblaw Drama
Carwyn – Aled Jenkins (Greenbay Media)
Dwy Wraig Lloyd George gyda Ffion Hague – Rhys Edwards (Tinopolis)
Y Sain Gorau
Caerdydd – Simon H. Jones / Ray Parker (Fiction Factory)
Ar y Tracs – Gareth Meirion Thomas / Simon H. Jones (Tidy Productions a Green Bay Media)
Y Golygydd Gorau
Ar y Tracs – Mali Evans (Tidy Productions a Green Bay Media)
O’r Galon: Canfod Hedd – Llyr Madog (Cwmni Da)
Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau – Dim Camera
Cyngerdd Dathlu Karl Jenkins – Martyn Rourke (Rondo Media)
Cyngerdd Sêr y Steddfod – Nigel Catmur (BBC Cymru)
Cyngerdd Rhydian – John Penny Williams (Avanti)
Y Cynllunio Gorau
Cwcw – Hayden Pearce (Fondue Films)
Teitlau Gorau
Y Daith – Roughcollie
Y Gwisgoedd Gorau
Ar y Tracs – Ffion Elinor (Tidy Productions a Green Bay Media)
Y Coluro Gorau
Ryan a Ronnie – Kate Roberts (Boomerang Plus ccc)
Darllediad Gorau o Ddigwyddiad Byw
Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 – Jonathan Davies (BBC Cymru)
Yr Awdur Gorau ar Gyfer y Sgrin
Carwyn – T. James Jones (Greenbay Media)
Ryan a Ronnie – Meic Povey (Boomerang Plus ccc)
Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau
Cwcw – John E. R. Hardy (Fondue Films)
Ralio+ - Chris Lewis (P.O.P. 1)
Y Cyfarwyddwr Gorau: Drama
Ar y Tracs – Ed Talfan (Tidy Productions a Green Bay Media)
Ryan a Ronnie – Rhys Powys (Boomerang Plus ccc)
Y Cyfarwyddwr Gorau
Carwyn – Dylan Richards (Greenbay Media)
Dwy Wraig Lloyd George gyda Ffion Hague – Nia Dryhurst (Tinopolis)
Yr Actor Gorau
Caerdydd – Ryland Teifi (Fiction Factory)
Y Pris – Matthew Gravelle (Fiction Factory)
Ryan a Ronnie – Aled Pugh (Boomerag Plus ccc)
Yr Actores Orau
Caerdydd – Mali Harries (Fiction Factory)
Cwcw – Eiry Thomas (Fondue Films)
Y Cyflwynydd Gorau Ar y Sgrin
Papa Haydn – Elin Manahan Thomas (P.O.P. 1)
Tudur Owen o’r Doc – Tudur Owen (Boomerang Plus ccc)