Cyfle euraidd i fwynhau drama arobryn Con Passionate
25 Mai 2007
Mae ail gyfres Con Passionate, a dorrodd dir newydd drwy ennill un o brif wobrau’r byd teledu, y Rose D’Or - y tro cyntaf i raglen Gymraeg ennill - i’w darlledu ar S4C digidol am 10.00pm o ddydd Sul, 27 Mai ymlaen.
Curodd y ddrama, sy’n dilyn hynt a helynt côr meibion a’i arweinyddes nwydus, Davina, a chwaraeir gan y gantores opera, Shân Cothi, EastEnders a The Bill i gipio’r categori Sebon Gorau yn y gwobrau Rose D’Or, a gynhaliwyd yn Y Swistir.
Mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar drydedd gyfres o Con Passionate, a ysgrifennir gan yr awdur arobryn, Siwan Jones. Teledu Apollo, sydd yn ddiweddar wedi ymuno â Grŵp Cwmnïau Boomerang, sy’n cynhyrchu’r gyfres. Bydd y gyfres newydd yn cael ei darlledu ar S4C yn 2008.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Yn dilyn llwyddiant ysgubol Con Passionate yn y gwobrau Rose D’Or, ry’n ni’n falch iawn i roi’r cyfle i wylwyr newydd ledled y DU fwynhau’r ddrama ardderchog hon. Bydd dilynwyr brwd y gyfres hefyd yn falch o weld un o lwyddiannau’r Sianel yn cael ei ailddarlledu.”
Mae Con Passionate, sydd â Mark Lewis Jones, William Thomas, Beth Robert, Ifan Huw Dafydd, Steffan Rhodri a Philip Hughes, ymhlith eraill, yn actio ynddi, hefyd wedi ennill gwobrau Cyfryngau Celtaidd, Bafta Cymru a dwy wobr Prix Europa.
Mae S4C digidol ar gael y tu allan i Gymru ar Sky ac fe’i darlledir yn gydamserol ar s4c.co.uk. Bydd Con Passionate hefyd ar gael i’w gwylio ‘ar alw’ ar s4c.co.uk/gwylio.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?