Mae David Beckham yn talu teyrnged i’w gyn gyd-aelod o dîm Manchester United, yr arwr Cymreig, Ryan Giggs mewn cyfweliad ecsgliwsif ar raglen bêl-droed Ewropeaidd flaengar S4C Sgorio, i’w darlledu heno ar S4C am 11.05pm.
Sicrhaodd Morgan Jones, cyflwynydd Sgorio y cyfweliad ecsgliwsif gyda seren Real Madrid yn Stadiwm y Bernabeu ychydig ar ôl ei gêm olaf i’r tîm o Sbaen - gêm a gipiodd deitl prif gynghrair Sbaen La Liga i Real gyda llwyddiant 3-1 adre’ i Real Mallorca.
Mae Sgorio ar gael ar analog ac ar ddigidol yng Nghymru ac ar Sky sianel 134 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn y cyfweliad, mae Beckham sy’n emosiynol wrth ddathlu ar y maes gyda’i dri mab, yn sôn wrth Morgan Jones am ei falchder o ennill y gynghrair Sbaeneg gyda Real Madrid cyn symud i’r Unol Daleithiau i chwarae i LA Galaxy yn Los Angeles.
Mae David Beckham, 32, sydd wedi rhoi nifer o gyfweliadau i Sgorio dros y blynyddoedd, wedyn yn talu teyrnged i gyn-gapten Cymru, Ryan Giggs, a wnaeth ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ychydig dros bythefnos yn ôl.
Meddai David Beckham ar Sgorio heno, “Da iawn i Ryan Giggs – mae e’n berson anhygoel, yn chwaraewr anhygoel ac mae’n haeddu ei OBE.”
Gall y gwylwyr fwynhau uchafbwyntiau’r gêm hon ar S4C heno, yn ogystal ag unchafbwyntiau gemau Barcelona a Seville, y ddau dîm arall oedd â gobaith o ennill y teitl yn niweddglo mwyaf cyffrous cyngrair Sbaen ers blynyddoedd.
Ychwanega Morgan Jones, “Roedd y llwyfan wedi ei gosod ar gyfer diwrnodau ola’ mwyaf dramatig La Liga ers degawdau a’r tebygrwydd oedd fod y teitl ar ei ffordd i Barcelona tan y chwarter olaf. Ar ôl gêm derfynol mor ddramatig, roedd David Beckham yn naturiol wrth ei fodd ac yn emosiynol, ar ôl gorfod gwneud y penderfyniad ym mis Ionawr i adael y clwb. Er hynny, roedd ganddo ddigon o amser i feddwl am ei hen ffrind, Ryan Giggs ac i’w longyfarch, drwy S4C, ar dderbyn ei OBE.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?