S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newid barn ar ddatganoli

17 Medi 2007

Mae’r egwyddor o hunan lywodraeth bellach wedi cael ei derbyn gan bobl Cymru, yn ôl ymchwil newydd a wnaed gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r ymchwil, a ddatgelir yn ei chyfanrwydd yng nghyfres ddogfen S4C, Datganoli i’w darlledu nos Lun, 17 Medi am 9.00pm, yn dangos bod 83% o etholwyr Cymru bellach yn gefnogol i hunan lywodraeth mewn rhyw ffurf neu’i gilydd, gyda’r gefnogaeth yn arbennig o uchel ymhlith pobl ifanc.

Roedd hanner y rhai rhwng 18 a 34 oed yn cefnogi Senedd ar ffurf yr hyn sydd yn Yr Alban, o’i chymharu â 35% o blith y rhai dros 65 oed. Dim ond 14% o’r rhai rhwng 18 a 34 oed oedd yn gwrthwynebu unrhyw fath o ddatganoli o’i chymharu â 24% ymhlith etholwyr dros 65 oed.

Mae nifer arwyddocaol yn fwy o fenywod yn gefnogol i ddatganoli, yn gwbl groes i’r sefyllfa yn 1997. Ar adeg y refferendwm, roedd menywod oddeutu 5% yn fwy tebygol o wrthwynebu unrhyw ffurf ar hunan lywodraeth. Mae ymchwil bellach yn dangos bod menywod yn 5% yn llai tebygol o wrthwynebu'r cysyniad nag yw dynion.

Tra bod yr egwyddor o hunan lywodraeth wedi ei derbyn, mae’r union ffurf dal yn destun trafodaeth. Er bod y gefnogaeth i annibyniaeth ac i’r ffurf bresennol ar ddatganoli, sef cynulliad gyda phwerau deddfwriaethol cyfyngedig, fwy neu lai heb newid dros y ddegawd ddiwethaf (12% dros annibyniaeth a 28% dros y drefn bresennol), mae’r gefnogaeth i senedd fel un yr Alban wedi dyblu ers 1997 (o 20% i 43%). Senedd gyda phwerau deddfwriaethol cynradd a phwerau i addasu trethi yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Yr arbenigwr gwleidyddol, y Dr Richard Wyn Jones, yw cyflwynydd ac awdur y gyfres ddogfen dair rhan, Datganoli, sy’n nodi degawd o ddatganoli Cymreig. Mae’r Dr Wyn Jones hefyd yn gyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Meddai’r Dr Wyn Jones, “Yn ôl yn 1997, roedd pobl Cymru’n gwbl ranedig ar ddatganoli. Dim ond chwarter yr etholaeth bleidleisiodd o blaid sefydlu Cynulliad, gyda chwarter arall yn pleidleisio yn ei herbyn. Nid oedd yr hanner arall yn malio digon i bleidleisio o gwbl.

“Roedd y mwyafrif o blaid - 6,721 - yn fach iawn, yn cynrychioli dim ond 0.3% o’r etholaeth Gymreig. Ni allai’r gwrthgyferbyniad gyda’r Alban fod yn fwy trawiadol. Fel y gwnaeth y diweddar arweinydd Llafur John Smith ddarogan, pan gawsant y cyfle, fe wnaeth pleidleiswyr yr Alban ddangos yn hollol bendant mai sefydlu Senedd yr Alban oedd ‘ewyllys sefydledig’ y bobl trwy bleidleisio’n bendant dros ddatganoli yn y refferendwm.

“Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ac mae’n glir bod datganoli yn ‘ewyllys sefydledig’ yng Nghymru hefyd. Yn wir, gan ystyried y sylfeini sigledig a roddwyd trwy bleidlais 1997, yn ogystal â datblygiad simsan llywodraeth ddatganoledig, mae’r cynnydd mawr yn y gefnogaeth dros egwyddor datganoli yn gwbl ryfeddol. Bellach, ni all neb wir gwestiynu bod y mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru eisiau datganoli. Yr unig gwestiwn yw penderfynu ar ffurf y datganoli yma. Mae’r ffaith mai senedd ar ffurf yr Alban yw’r dewis mwyaf poblogaidd ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru, yn enwedig ymhlith yr ifanc, yn arbennig o drawiadol ac arwyddocaol.”

Bu’r Athro Roger Scully, hefyd o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cydweithio’n agos gyda’r Dr Wyn Jones ar yr ymchwil. Ychwanegodd, “Mae nifer y bobl ifanc yng Nghymru nad yw’n cofio bywyd cyn datganoli yn cynyddu bob dydd. Iddyn nhw, mae llywodraeth ddatganoledig a gwleidyddiaeth aml-blaid yn beth normal; y llywodraeth yn Llundain a’r dominyddu parhaus gan un blaid yng Nghymru sy’n troi’n fwyfwy estron iddyn nhw, fel y gwnaeth Oes yr Ymerodraeth a Baich y Dyn Gwyn droi’n syniadau estron i ninnau.

“Yn draddodiadol, mae menywod wedi bod ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru; wyneb nodweddiadol gwleidyddiaeth Cymru oedd wyneb dyn. Ond mae menywod wedi cael cynrychiolaeth mewn niferoedd llawer yn fwy yn y Cynulliad a’i lywodraeth. Ac mae menywod wedi ymateb i hynny. Ar y dechrau roeddent yn llawer mwy gwyliadwrus ynghylch datganoli, ond bellach maen nhw’n fwy parod na’r dynion i dderbyn a chofleidio hunan lywodraeth yng Nghymru.”

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

• Gwnaed yr ymchwil ar gyfer cyfres ddogfen S4C, Datganoli gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â’r Ganolfan Genedlaethol Dros Ymchwil Cymdeithasol (NatCen), ac fe’i ariannwyd gan Gyngor Economaidd Cymdeithasol y DU (ESRC).

• Ddeng mlynedd ar ôl i Gymru bleidleisio yn Refferendwm 1997, fe fydd y gyfres Datganoli yn asesu degawd gyntaf datganoli. Mae’r Dr Richard Wyn Jones yn teithio ar hyd a lled Cymru i fesur effaith datganoli ar ein bywydau - o safbwynt iechyd, addysg, yr economi a’r iaith Gymraeg. Gan ddefnyddio tystiolaeth a geir mewn cyfres o arolygon agweddau cyhoeddus, mae’n trafod y newid mewn agweddau dros y ddegawd ddiwethaf, wrth i’r egwyddor o ddatganoli gael ei derbyn fwyfwy yng Nghymru.

Tabl

Dyma’r ffigyrau amlycaf ar gyfer mesur dewisiadau cyfansoddiadol pobl fel yr adroddir yn y rhaglen:

Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru (%)

 1997 1999 2001 2003 2006 2007

Annibyniaeth  14 10 12 14 14 12

Senedd  20 30 39 38 41 43

Cynulliad  27 35 26 27 23 28

Dim corff etholedig  40 25 24 21 21 17

Datganoli

Cynhyrchiad Ffilmiau’r Bont ar gyfer S4C

S4C 17 Medi 9.00pm

Isdeitlau Saesneg ar gael

Hefyd ar gael y tu allan i Gymru ar Sky 134

Hefyd ar gael ar fand llydan ar s4c.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?