Mae S4C i atgyfnerthu ei phresenoldeb yng ngogledd Cymru trwy symud i swyddfeydd newydd sbon wrth galon ardal adfywiedig Doc Fictoria yn nhref Caernarfon.
Mae’r Sianel am gymryd les ar swyddfeydd yn natblygiad Doc Fictoria, sy’n edrych dros farina Caernarfon a chanolfan gelfyddydau Galeri. Bydd y swyddfeydd newydd yn cynnig cyfleusterau gwell a mwy pwrpasol.
Bydd chwech o aelodau staff wedi’u lleoli yn y swyddfeydd newydd, gan gynnwys Pennaeth Gwasanaethau Plant newydd S4C, Siân Eirian, a fydd hefyd yn bennaeth ar y swyddfa.
Bydd lle yn y swyddfeydd at ddefnydd staff S4C sydd wedi eu lleoli mewn rhannau eraill o Gymru.
Mae disgwyl i S4C symud i’r swyddfeydd newydd yng nghanol 2008. Tan hynny, fe fydd y staff yn parhau i ddefnyddio’r swyddfeydd presennol yn Lôn Ddewi.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae symud i ganolfan fodern, gyffrous a newydd mewn lleoliad mwy amlwg yng Nghaernarfon yn cryfhau presenoldeb S4C yn yr ardal. Mae hyn yn gwella’n cysylltiad gyda’r cynhyrchwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd ac yn atgyfnerthu’n hymrwymiad i ogledd Cymru.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?