Casglwyd £3,000 mewn un diwrnod ar gyfer Ysbyty Glangwili gan gôr clwb rygbi’r Scarlets mewn her a osodwyd yn y lle cyntaf gan y diweddar Ray Gravell.
Gosodwyd y sialens gan Ray, capten Côr y Scarlets, fel rhan o Codi Canu, cyfres ar S4C am bum côr clwb rygbi yn brwydro i ennill y fraint o ganu’r anthemau cyn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc eleni yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Adlewyrchodd ymgyrch codi-arian y Scarlets yng Nghaerfyrddin ysbryd cystadleuol a fyddai wedi plesio Ray yn fawr.
Aeth y baswyr i ganol y dref i sgleinio sgidiau, y sopranos a’r altos i’r siopau i bacio bagiau, a’r tenoriaid i olchi ceir, oll yn canu’n llon ar y cyd.
Cyflwynwyd siec i bennaeth yr ymddiriedolaeth iechyd lleol Monica French, sydd â chyfrifoldeb dros Ysbyty Glangwili, lle derbyniodd Ray Gravell driniaeth.
Meddai Julie Payne ar ran Côr y Scarlets, “Roedd yn ddiwrnod hynod. Roedd pawb am wneud eu gorau glas er cof am Grav.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?