S4C yn lansio ymgyrch i dynnu sylw at Sain Ddisgrifio
11 Chwefror 2008
Mae S4C wedi lansio ymgyrch newydd sbon ar y sgrin i hybu’r Gwasanaeth Sain Ddisgrifio i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.
Mae’r Gwasanaeth Sain Ddisgrifio a ddarperir gan y Sianel yn cynnig trosleisio ychwanegol yn Gymraeg sy’n disgrifio digwyddiadau ar y sgrin, symudiadau corfforol a mynegiant wynebau rhwng deialog y rhaglenni.
Mae’r Sain Ddisgrifio yn cael ei chynhyrchu i bob rhaglen unigol ac yn caniatáu i bobl sy’n cael trafferth gweld y teledu i glywed beth na allant weld.
Mae’r gwasanaeth yma, sydd ar gael yn bennaf ar gyfresi drama, yn cael ei gynnig ar 10% o raglenni ar S4C digidol. Mae’r ganran hon yn dilyn canllawiau Ofcom, goruchwylydd y diwydiant darlledu.
Mae ymgyrch S4C wedi’i lansio i gyd-fynd ag ymgyrch Ofcom i godi ymwybyddiaeth am Sain Ddisgrifio. Fe’i lansiwyd ar ôl i ymchwil ddangos fod llai na 40% o’r cyhoedd cyffredinol a dim ond 37% o’r gymuned sy’n dioddef o broblemau gyda’u golwg yn gwybod am y gwasanaeth Sain Ddisgrifio.
Meddai Emlyn Penny Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynnwys S4C, “Mae S4C yn cefnogi ymgyrch Sain Ddisgrifio Ofcom i’r carn ac am hyrwyddo’r gwasanaeth pwysig hwn ar y sgrin ac oddi arni. Rydym ni eisiau codi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth ac annog mwy o ddefnydd ohono, gan ei fod yn wasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi gan y rhai sy’n ei ddefnyddio. Does dim amheuaeth fod y gwasanaeth yn ychwanegu at fwynhad pobl ddall a rhannol ddall o raglenni S4C.”
Ar hyn o bryd, mae Sain Ddisgrifio ar gael ar y cyfresi drama Teulu, Rownd a Rownd a Caerdydd, y gyfres boblogaidd Cefn Gwlad a’r rhaglen Retro i blant. Bydd ar gael hefyd ar y cyfresi nesaf o Caerdydd, Tipyn o Stad, ac Y Pris .
Cynigir y gwasanaeth ar S4C digidol, sydd ar gael yng Nghymru ar sianel Sky 104, Virgin Media 194 a Freeview 4, ac yn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon ar Sky 134.
Am fwy o wybodaeth am Sain Ddisgrifio, ewch i wefan S4C www.s4c.co.uk
Mae llyfryn rhad ac am ddim S4C Pwyso’r Botwm hefyd yn esbonio sut i ddefnyddio Sain Ddisgrifio. Gall gwylwyr archebu copïau o’r llyfryn drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 neu drwy e-bostio’r gwifren@s4c.co.uk
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?