Bydd hwyl a sbri i blant ifanc Ceredigion wrth i gymeriadau cyfres S4C i blant bach, Pentre Bach, ddathlu Diwrnod Y Llyfr ym mis Mawrth.
Ym Mlaenpennal ger Tregaron, sef lleoliad go iawn y gyfres, bydd Jac y Jwc a’i ffrindiau yn cynnal gwahanol weithgareddau yn ddyddiol rhwng 6 Mawrth, sef Diwrnod y Llyfr, a 12 Mawrth.
Bydd ymwelwyr ifanc i’r pentref, sy’n cael ei redeg gan Ifana Savill a’i gŵr Adrian, yn cael y cyfle i ymweld â siop Parri Popeth a chael sgwrs gyda Jaci Soch, sy’n olygydd papur bro Pentre Bach.
Bydd awduron o fri, gan gynnwys Eurig Salisbury, Mei Mac, Gwyneth Glyn a Bardd Plant Cymru 2008, Caryl Parry Jones, hefyd yn ymweld â’r pentref i gymryd rhan yn y gweithgareddau.
Bydd Bws Planed Plant Bach ynghyd â’r cyflwynwyr, Rachael Solomon a Gareth Delve, yn bresennol yn y pentref ar Ddiwrnod y Llyfr.
Noddir y gweithgareddau cynhwysfawr i blant o dan naw oed am yr ail flwyddyn yn olynol gan Awdurdod Addysg Ceredigion. Cwmni Sianco sy’n cynhyrchu Pentre Bach ar gyfer S4C.
Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae cymeriadau Pentre Bach fel Sali Mali a Jac y Jwc yn ddelfrydol i annog a denu plant i fwynhau dysgu a darllen. Rydym yn falch iawn i gefnogi Diwrnod y Llyfr yn genedlaethol a’r gweithgaredd arbennig yma yng Ngheredigion.”
Ychwanegodd Owenna Davies, Ymgynghorydd yr Awdurdod ar gyfer Addysg Blynyddoedd Cynnar, “Dyma gyfle gwych i blant Ceredigion flasu hud a lledrith y cyfleusterau hynod apelgar hyn – mae’n ffordd arbennig o ddod â byd llyfrau yn fyw i’n plant.”
Mae Idris Morris Jones, Dafydd Aeron, Dafydd Jones, Emyr Bell a Rhodri ap Hywel ymhlith yr actorion sy’n chwarae cymeriadau Pentre Bach.
Ceir mwy o fanylion am drefniadau Diwrnod y Llyfr trwy ffonio Pentre Bach ar 01974 251676.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?