Mae S4C wedi ennill un o brif wobrau cystadleuaeth Design Week 2008 am ffilm fer arbennig sy’n hyrwyddo gwasanaethau is-deitlo dwyieithog a fideo-ar-alw y Sianel.
Fe lwyddodd y ffilm animeiddiedig, sy’n defnyddio delwedd newydd arobryn S4C, i drechu cystadleuaeth gref gan wrthwynebwyr megis MTV, Sky a BBC2 i ennill y categori Teledu, Ffilm a Graffeg Fideo.
Fe wnaeth y beirniaid ganmol “safon uchel” y gystadleuaeth, a drefnwyd gan gylchgrawn Design Week. Ond roedd ffilm hyrwyddo S4C, sy’n defnyddio llyfr sbonc fel dyfais gofiadwy i egluro sut i ddefnyddio’r gwasanaethau, yn “rhagori” yn eu barn nhw.
Dyluniwyd y ffilm gan Dylan Griffith, cyn Gyfarwyddwr Creadigol S4C a Dan Witchell o gwmni Proud. Cynhyrchwyd y ffilm gan Richard Acton a’i chyfarwyddo gan Roger Whittlesea.
Meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, Huw Rossiter: “Mae S4C yn sianel aml-lwyfan arloesol gydag ystod o wasanaethau darlledu ac ar-lein sy’n sicrhau ei bod ar gael i wylwyr ledled y Deyrnas Unedig.
“Fe lwyddodd y ffilm drawiadol hon i drosglwyddo’r neges mewn modd difyr a chofiadwy.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Fe enillodd delwedd newydd S4C, a lansiwyd yn Ionawr 2007, wobr Total Package yng Nghategori Dylunio EBU Connect y llynedd. Enillodd hefyd Gategori Brand Cymreig yng Ngwobrau Dylunio Dwyieithog 2007 a drefnwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?