29 Chwefror 2008
Mae S4C heddiw wedi cyhoeddi ehangu sylweddol ar ei darpariaeth o raglenni plant.
Daw hyn yn sgîl ymgynghoriad cyhoeddus gan Awdurdod S4C yn haf 2007 i gynlluniau i gyflwyno gwasanaethau Cymraeg newydd i blant yn barod am y newid i ddigidol. Fe dderbyniodd y cynlluniau gefnogaeth ysgubol gan y cyhoedd.
O fis Mehefin ymlaen, bydd rhaglenni ar gyfer plant meithrin yn cael eu darlledu bob bore o ddydd Lun i ddydd Gwener o 7.00am-1.30pm ar S4C Digidol.
Bydd y gwasanaeth newydd yn darlledu rhaglenni Cymraeg gwreiddiol, gan gynnwys y gyfres a enillodd BAFTA Cymru, Meees, y sioe ddawns a chân Triongl, ffefrynnau eraill fel y cyfresi animeiddio Holi Hana, Sali Mali a Sam Tân, ynghyd â rhaglenni newydd.
Bydd y gwasanaeth newydd gydol y flwyddyn ar gael ar-lein ar s4c.co.uk, yn ddibynnol ar hawliau. Darperir elfen ryngweithiol amlwg a fydd yn gymorth i addysg y gwylwyr ifainc a’r rhieni hynny sy’n dysgu Cymraeg.
Mae’r gwasanaeth yn gynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth bresennol, sydd ar hyn o bryd yn darlledu awr o raglenni bob amser cinio yn ystod yr wythnos, ynghyd ag oriau ychwanegol yn ystod y gwyliau ysgol.
Meddai John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Rwy’n falch iawn bod S4C, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, yn cynyddu ei ymroddiad i wasanaethau plant trwy ehangu’r arlwy yn sylweddol. Rydym heddiw’n cyhoeddi buddsoddiad uniongyrchol yn nyfodol darlledu Cymraeg.”
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C: "Fel rhan o strategaeth S4C ar gyfer paratoi am y newid i ddigidol, mae nifer o ddatblygiadau gwasanaeth darlledu cyhoeddus eisoes yn dwyn ffrwyth. Mae S4C yn un o brynwyr mwyaf o raglenni gwreiddiol ar gyfer plant yn y Deyrnas Unedig a bydd y twf yn ein gwasanaethau plant yn adeiladu ymhellach ar y cynhyrchu gwreiddiol o fewn y DU.”
Bydd ail ran y datblygiad yng ngwasanaethau plant S4C ar gyfer y grŵp oed 7-11 a’r drydedd ran ar gyfer grŵp oed 12+. Mae’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaethau ychwanegol hyn eisoes ar droed.
Bydd S4C yn ariannu’r gwasanaeth newydd o’i chyllid presennol.
Yn unol â pholisi tendro S4C, sy’n annog cystadleuaeth rhwng cwmnïau cynhyrchu, cyhoeddir cyfleoedd creadigol ar gyfer y gwasanaethau newydd i blant cyn bo hir.
Cyhoeddir manylion llawn am y gwasanaeth meithrin newydd maes o law.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
1. Awdurdod S4C yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am oruchwylio S4C. Penodir aelodau’r Awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
2. Bydd y newid i ddigidol yn unig yn digwydd yng Nghymru yn 2009/10.
3. Mae S4C Digidol yn darlledu oddeutu 80 awr o raglenni Cymraeg yr wythnos. Yn dilyn y newid i ddigidol, y sianel hon fydd prif wasanaeth S4C.