Wrth ddilyn ôl-troed y Prifardd T. H. Parry-Williams i Dde America yn Fo Fi a’r MC ar S4C cafodd MC Saizmundo, alter ego y newyddiadurwr a’r cerddor Deian ap Rhisiart, groeso ar aelwyd un o ddisgynyddion enwocaf Ciwba, Diana Díaz López.
Mae Diana yn ferch i’r ffotograffydd byd enwog Alberto Korda (1928-2001), a benodwyd yn ffotograffydd personol Fidel Castro yn dilyn y chwyldro yng Nghiwba ac a dynodd y llun eiconig o Che Guevara (1928-1967).
Caiff Deian hanes rhyfeddol y llun yn rhaglen gyntaf y gyfres a ddarlledir ar S4C fory (12 Mawrth) am 9pm.
Tynodd Korda y llun o Che Guevara ym mis Mawrth 1960. Roedd Che yn mynychu angladd dioddefwyr ffrwydriad llong La Coubre a chamodd am eiliad fer o flaen y camera a syllu tua’r gorwel. Bu Korda yn ddigon sydyn i fachu’r llun a’i greu’n eiliad enwog o hanes. Hyd heddiw caiff enwogrwydd byd eang Che Guevara ei gysylltu â’r llun hynod hwn.
Yn 1967 rhoddodd Korda y llun yn anrheg i Eidalwr, a phan laddwyd Che Guevara yn Hydref y flwyddyn honno gwnaethpwyd print o’r gwreiddiol a gwerthwyd dros filiwn a hanner mewn ychydig o fisoedd.
“Arferai fy nhad fynd efo Fidel i bob man gan dynnu lluniau o Che hefyd pan gai’r cyfle,” gwena Diana Díaz López wrth adrodd hanes ei thad.
Ni dderbyniodd Korda yr un geiniog am un o luniau mwyaf eiconig y byd, ac fe’i gladdwyd yn 2001 gyda’i garreg fedd wedi’i cherfio yn union yr un siap â’i lun enwocaf.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?