12 Mawrth 2008
Bydd pum côr rygbi yn ceisio ysbrydoli tîm Cymru i fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc pan ddônt wyneb yn wyneb yng ngêm dyngedfennol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.
Cefnogwyr o ranbarthau rygbi’r Dreigiau, Gleision, Gweilch, Sgarlets ac o Ogledd Cymru yw aelodau’r corau - cystadleuwyr yng nghyfres Codi Canu S4C. Byddant yn perfformio detholiad o alawon rygbi, gan gynnwys Calon Lân a Delilah, cyn y gêm.
Bydd S4C yn dosbarthu 30,000 o lyfrynnau poced, sy’n cynnwys y geiriau i anthemau rygbi adnabyddus Cymru i gefnogwyr yn y stadiwm, fel eu bod hwythau hefyd yn gallu ymuno gyda’r corau a chanu dros Gymru.
Bydd rhaglen derfynol cyfres Codi Canu, a fydd yn dal cyffro’r perfformiadau yng ngêm Cymru v Ffrainc, yn cael ei darlledu ar S4C ddydd Sul, 16 Mawrth am 7.30pm. Bydd is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael.
“Amcan Codi Canu yw adfywio’r traddodiad enwog sydd gennym ni yma yng Nghymru o ganu ar y terasau. Rydym yn gobeithio y bydd y corau, ynghyd â’r degau o filoedd o gefnogwyr Cymru, yn uno mewn cân i sbarduno Cymru yn y gêm derfynol gynhyrfus hon,” meddai’r arwr rygbi, Gareth Edwards, capten côr y Gleision, a chwaraeodd ei gêm olaf yn 1978, mewn gêm Gamp Lawn arall yn erbyn Ffrainc.
Mae côr y Dreigiau’n cael eu capteinio gan Brynmor Williams, y Gweilch gan Rowland Phillips a chôr Gogledd Cymru gan Robin McBryde. Y diweddar Ray Gravell oedd capten y Sgarlets, a byddant yn canu er cof iddo ddydd Sadwrn. Merched Grav, Manon a Gwenan, fydd masgotiaid y gêm, a byddant yn arwain Cymru i’r cae.
Beirniad Codi Canu, yr arweinydd enwog Owain Arwel Hughes, yn ogystal â Phrif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, fydd yn dewis y côr gorau a fydd yn perfformio anthemau cenedlaethol Cymru a Ffrainc cyn y gêm. Bydd y pum côr - gyda chyfanswm o 400 aelod - yna’n cymryd ei seddi gyda’r dorf, yn barod i ganu dros Gymru.
“Mae’r pum côr wedi gweithio’n galed dros y chwe mis diwethaf i feistroli amrywiaeth o ganeuon rygbi, ac maen nhw’n edrych ymlaen yn arw am gael canu yn Stadiwm y Mileniwm,” meddai Owain Arwel Hughes. “Maen nhw’n gobeithio y bydd y dorf yn ymuno â’r canu hefyd. Bydd yn ddiwrnod cofiadwy - mewn mwy nag un ffordd.”
Ychwanegodd Roger Lewis, “Bydd y corau yn yr eisteddle yn ystod y gêm, ac rwy’n credu y bydd y sain yn hudol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael y 400 llais yn canu ar gae Stadiwm y Mileniwm, ond mae mwy i hyn na’r 400 llais yma - bydd 2,000, 4,000, 20,000, pwy a ŵyr, 74,000 o bobl yn ymuno â nhw ar y dydd.”
Bydd S4C yn darparu sylwebaeth lawn fyw o’r gêm ddydd Sadwrn, gyda Gareth Edwards, Brynmor Williams a Gwyn Jones ymhlith y tîm cyflwyno. Bydd y darlledu’n dechrau am 4.05pm ddydd Sadwrn.